Llyfr Oriau Llanbeblig
Llawysgrif Gymreig ganoloesol a gysylltir ag ardal Llanbeblig, ar gyrion Caernarfon, Gwynedd, yw Llyfr Oriau Llanbeblig. Mae'n enghraifft brin o ddosbarth arbennig o lyfrau canoloesol a elwir yn llyfrau oriau, sef llyfrau defosiynol wedi'u darlunio'n gain. Lladin yw iaith y llawysgrif.
Enghraifft o'r canlynol | llawysgrif goliwiedig, llyfr oriau |
---|---|
Deunydd | croen |
Awdur | anhysbys |
Iaith | Lladin |
Dyddiad cyhoeddi | 1501 |
Tudalennau | 138 |
Dechrau/Sefydlu | c. 1390 |
Lleoliad | Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
Yn cynnwys | Breuddwyd Macsen Wledig |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Credir fod y llawysgrif yn dyddio o tua diwedd y 14g. Fe'i adnabyddir fel 'Llyfr Oriau Llanbeblig' am fod darlun sy'n dangos dathliad cysegru eglwys Peblig Sant yn ymddangos ynddi. Damcaniaethir ei bod yn bosib mai'r perchennog cyntaf oedd merch o'r enw Isabella Godynogh (bu farw yn 1413). Roedd llyfrau oriau yn aml yn cael eu llunio ar gyfer merched. Ceir nodyn am farwolaeth Isabella yn y llawysgrif ar gyfer 23 Ebrill.
Llawysgrif groen ydyw Llyfr Oriau Llanbeblig, sy'n cynnwys 138 tudalen ffolio (175mm x 121mm). Mae'n cynnwys saith mân-ddarlun, yn cynnwys portread o frenin a allai gynrychioli Macsen Wledig, a gysylltir ag ardal Segontiwm yn y chwedl ganoloesol Breuddwyd Macsen Wledig. Ceir yn ogystal ddarluniau o Sant Pedr, yr archangel Gabriel, a'r Forwyn Fair a'r Iesu.
Cyfeiriadau
golyguDolen allanol
golygu- Llyfr Oriau Llanbeblig wedi'i ddigideiddo ar y Drych Digidol, LlGC