Llowes
Pentref bychan a phlwyf eglwysig yng nghymuned Y Clas-ar-Wy, Powys, Cymru, yw Llowes.[1][2] Mae'n gorwedd yn ardal Maesyfed, tua 3 milltir (5 km) i'r de-ddwyrain o bentref Y Clas-ar-Wy, ger y ffin â Lloegr. Roedd 110 o bobl yn byw ynddo yn 2005.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.0668°N 3.1797°W |
Cod OS | SO191416 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | James Evans (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[4]
Eglwys Meilig Sant a Chroes Meilig
golyguMae eglwys y plwyf wedi'i chysegru i Meilig Sant, y dywedir iddo sefydlu mynachlog yn y 6ed ganrif yng Nghroes Feilig ger y pentref, lle y cafodd ei gladdu. Dichon fod Meilig yn un o feibion Caw ac yn frawd i Gildas. Cyfeirir ato yn Culhwch ac Olwen fel un o'r marchogion yn llys Brenin Arthur.[5]
Ailadeiladwyd yr eglwys yn llwyr ym 1853, er y gall fod gwaelod y tŵr yn ganoloesol a chredir bod y bedyddfaen â band haearn amdano yn dyddio o'r 12fed ganrif.
Symudwyd Croes Meilig, y dywed traddodiad iddi sefyll gynt ar ei safle eponymaidd Croes Feilig, i'r eglwys ei hun yn 1956 i atal erydiad pellach. Oddeutu 1699 safai yn y fynwent pan y'i gwelwyd hi gan Edward Lhuyd. Credir bod y groes, sydd wedi'i cherfio ar faen hir, yn dyddio i oddeutu'r 11eg ganrif. Roedd chwedl leol yn cyfeirio at y groes fel 'Moll Walbec's Stone', gan honni iddi gael ei thaflu yno gan 'Moll Walbec' neu Maud de St. Valery, gwraig hynod gadarn ac anorchfygol William de Braose (1144/1153–1211), arglwydd y Gelli Gandryll. Wrth gario cerrig yn ei ffedog o'r chwarel yn Y Clas ar Wy i ailadeiladu'r castell, syrthiodd un i'w hesgid. Tynnodd Maud hi allan a'i thaflu'n ddig dros Afon Gwy i lanio ym mynwent eglwys Llowes.[6]
Yr arysgrif Gymraeg i William Bevan
golyguYm mynwent yr eglwys mae'r hyn a alwyd gan Ffransis Payne yn 'un o bethau prinnaf sir Faesyfed sef carreg fedd ac arni arysgrif yn Gymraeg'. Dyma'r geiriau sydd ar y garreg hon: 'William Bevan or Vedowlwyd Dan y garreg sydd Imma yn gorphywys ay oydran oydd 84 mhylnedd ac ymadevis ar y byd hwn y 17 Dydd o Ebrill yn y flwyddyn 1684 Miserere Mei Deus'.[7]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 6 Ionawr 2022
- ↑ "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-30.
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ Bartrum, Peter C. (2009). A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend upto about A.D. 1000 (PDF). Aberystwyth: National Library of Wales. t. 529.
- ↑ Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. "Moll Walbec Stone, St Meilig's Church, Llowes". Coflein. Cyrchwyd 30 Mai 2023.
- ↑ Payne, F. G. (1966). Crwydro Sir Faesyfed. I. Llandybie: Llyfrau'r Dryw. t. 96.
Trefi
Aberhonddu · Crucywel · Y Drenewydd · Y Gelli Gandryll · Llanandras · Llandrindod · Llanfair-ym-Muallt · Llanfyllin · Llanidloes · Llanwrtyd · Machynlleth · Rhaeadr Gwy · Talgarth · Y Trallwng · Tref-y-clawdd · Trefaldwyn · Ystradgynlais
Pentrefi
Abaty Cwm-hir · Aberbrân · Abercegir · Abercraf · Aberedw · Abergwesyn · Abergwydol · Aberhafesb · Aberhosan · Aberllynfi · Aber-miwl · Aberriw · Abertridwr · Aberysgir · Adfa · Arddlin · Bachelldref · Y Batel · Betws Cedewain · Beulah · Bochrwyd · Bontdolgadfan · Y Bontnewydd-ar-Wy · Bronllys · Bugeildy · Bwlch · Caersŵs · Capel Isaf · Capel Uchaf · Capel-y-ffin · Carno · Casgob · Castell Caereinion · Castell-paen · Cathedin · Cegidfa · Cemaes · Ceri · Cilmeri · Y Clas-ar-Wy · Clatter · Cleirwy · Cnwclas · Coedybrenin · Coelbren · Comins-coch · Crai · Craig-y-nos · Crugion · Cwmdu · Cwm-twrch · Darowen · Defynnog · Derwen-las · Dolanog · Dolfor · Dylife · Einsiob · Erwd · Esgairgeiliog · Felindre, Maldwyn · Felin-fach · Y Foel · Ffordun · Gaer · Garth · Glan-miwl · Glantwymyn · Glasgwm · Y Groes · Gwenddwr · Heol Senni · Isatyn · Kinnerton · Libanus · Llan · Llanafan Fawr · Llananno · Llanarmon Mynydd Mawr · Llanbadarn Fynydd · Llanbadarn Garreg · Llanbister · Llanbryn-mair · Llandinam · Llandrinio · Llandyfaelog Tre'r-graig · Llandysilio · Llandysul · Llan-ddew · Llanddewi yn Hwytyn · Llanddewi Ystradenni · Llanelwedd · Llanerfyl · Llanfair Caereinion · Llanfair Llythynwg · Llanfechain · Llanfihangel Nant Brân · Llanfihangel Nant Melan · Llanfihangel Rhydieithon · Llanfihangel Tal-y-llyn · Llanfihangel-yng-Ngwynfa · Llanfrynach · Llangadfan · Llangadwaladr · Llangamarch · Llangasty Tal-y-llyn · Llangatwg · Llangedwyn · Llan-gors · Llangurig · Llangynidr · Llangynllo · Llangynog · Llangynyw · Llanhamlach · Llanigon · Llanllugan · Llanllwchaearn · Llanllŷr · Llanrhaeadr-ym-Mochnant · Llansanffraid Cwmdeuddwr · Llansanffraid-ym-Mechain · Llansantffraed (Aberhonddu) · Llansantffraed-yn-Elfael · Llansilin · Llanwddyn · Llanwnnog · Llanwrin · Llanwrthwl · Llanwyddelan · Llanymynech · Llan-y-wern · Llawr-y-glyn · Llechfaen · Llowes · Llys-wen · Llywel · Llwydiarth · Manafon · Meifod · Merthyr Cynog · Mochdre · Nant-glas · Nantmel · Pandy · Pencelli · Pencraig · Penegoes · Pengefnffordd · Pennant Melangell · Pentrefelin · Penybont · Pen-y-bont-fawr · Pilalau · Pipton · Pont-faen · Pontneddfechan · Pontrobert · Pontsenni · Pwllgloyw · Saint Harmon · Sarn · Sarnau, Brycheiniog · Sarnau, Maldwyn · Sgethrog · Snead · Sycharth · Talachddu · Talerddig · Tal-y-bont · Tal-y-bont ar Wysg · Tirabad · Trallong · Trecastell · Trefeca · Trefeglwys · Tregynon · Trelystan · Tre'r-llai · Tretŵr · Tre-wern · Walton · Yr Ystog