Katherine Ryan
Mae Katherine Ryan (ganed 30 Mehefin 1983) yn gomedïwraig, ysgrifenwraig, cyflwynwraig ac actores Ganadaidd-Wyddelig. Mae'n byw yn Llundain.
Katherine Ryan | |
---|---|
Ganwyd | 30 Mehefin 1983 Sarnia |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon, Canada |
Alma mater | |
Galwedigaeth | digrifwr, actor, cyflwynydd teledu |
Adnabyddus am | Bring The Noise |
Tad | Finbarr Ryan |
Mam | Julia McCarthy |
Gwefan | https://www.theregister.com/2020/12/11/katherine_ryan_domain/ |
Bywyd
golyguMae Ryan yn ferch i dad Gwyddelig a mam Ganadaidd o dras Wyddelig. Mae ei thad yn ddrafftsmon sy'n berchen ar gwmni peirianneg. Ganwyd a magwyd Ryan a'i dwy chwaer iau yn Sarnia, Ontario.[1] Treuliodd hafau ei phlentyndod yng Nghorc yn ymweld â'i mam-gu a thad-cu ar ochr ei thad. Astudiodd cynllunio trefol mewn prifysgol yn Toronto.[2] Tra'n astudio, gweithiodd yn Hooters yn ogystal â chymryd rhan mewn nosweithiau meic agored yn ei hamser sbâr.
Daeth Ryan i Lundain am fis gyda'i chariad yn yr haf yn 2007, cyn penderfynu symud yno'n barhaol yn Ionawr 2008. Mae erbyn hyn yn byw yn ardal Crouch End[3] y ddinas gyda'i merch o gyn-gariad, Violet. Mae Ryan wedi dioddef gyda chanser y croen ddwywaith yn y gorffennol.[4][5]
Gyrfa
golyguYmddangosodd Ryan ar deledu am y tro cyntaf yn 2012 ar raglen Channel 4 8 Out of 10 Cats. Mae wedi mynd ymlaen i ymddangos ar raglenni panel eraill, gan gynnwys Mock the Week, Never Mind the Buzzcocks, A League of Their Own, QI a Have I Got News for You.
Fel actores, mae wedi ymddangos yn y comedi sefyllfa Channel 4 Campus[6][7], y comedi sefyllfa BBC Two Episodes[8] a Don't Sit in the Front Row gyda Jack Dee.[8] Fel comedïwraig ar ei sefyll, mae Ryan wedi ymddangos fel act ar Live at the Appollo ar y BBC.
Yn 2015, cymerodd le Steve Jones fel cyflwynydd y rhaglen Hair ar BBC Two. Hefyd yn 2015, daeth Ryan yn banelydd ar y rhaglenni Bring the Noise ar Sky 1, ar dîm Tinie Tempah, a Safeword ar ITV2.
Mae gan Ryan golofn wythnosol yn y cylchgrawn adloniant NME.
Enillodd y Wobr Ferched Doniol Nivea yn 2008.[9]
Ffilmyddiaeth
golygu- Episodes (2012) - cynorthwy-ydd Merc
- Mock the Week (2012–15) – panelydd gwadd
- Never Mind the Buzzcocks (2012–14) – panelydd gwadd
- 8 Out of 10 Cats (2012–14) – panelydd gwadd
- Sweat the Small Stuff (2013–14) – panelydd gwadd
- Let's Dance for Comic Relief (2013) – cystadleuydd
- Fake Reaction (2013) – gwestai
- QI (2013) – panelydd gwadd
- Have I Got News for You (2013–16) – panelydd gwadd a chyflwynwraig
- Celebrity Squares (2014, 2015) – gwestaiu
- Room 101 (2015) – gwestai
- 8 Out of 10 Cats Does Countdown (2015) – panelydd gwadd
- Hair (2015) – cyflwynwraig
- Safeword (2015–presennol) – capten tîm
- The Cube: Celebrity Special (2015) – cystadleuydd
- The Last Leg (2015) – gwestai
- Bring the Noise (2015) – panelydd rheolaidd
- Lip Sync Battle UK (2016) – cystadleuydd
- Let's Play Darts for Sport Relief (2016) – cystadleuydd
- Counterfeit Cat (2016) – Ranceford (llais)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "New Interview: Katherine Ryan". Beyond The Joke. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-19. Cyrchwyd 2016-06-30.
- ↑ Denise Evans (8 Chwefror 2013). "Comic Katherine Ryan tom play The Lowry after appearances on Mock The Week and Never mind The Buzzcocks". Manchester Evening News. Cyrchwyd 2 Rhagfyr 2013.
- ↑ Moore-Bridger, Benedict; Groskop, Viv (7 August 2014). "TV comedian Katherine Ryan gives her cheating boyfriend a star role in new show". London Evening Standard. Alexander Lebedev, Evgeny Lebedev and Daily Mail and General Trust. Cyrchwyd 8 June 2015.
- ↑ Harding, Oscar. "Exclusive interview with Katherine Ryan". What Culture. Cyrchwyd 26 Awst 2014.
- ↑ "Comic Katherine Ryan looks on the bright side". Reading Chronicle. Berkshire Media Group. 23 Chwefror 2013. Cyrchwyd 26 Awst 2014.
- ↑ Mellor, Louisa (12 April 2011). "Campus episode 2 review: The Culling Fields". Den of Geek. Cyrchwyd 10 December 2012.
- ↑ "Channel 4 goes off Campus : News 2011". Chortle. 29 Mehefin 2011. Cyrchwyd 10 Rhagfyr 2012. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help) - ↑ 8.0 8.1 "Slipping makes her smile – Arts and Comedy". The News. 1 Chwefror 2013. Cyrchwyd 1 Chwefror 2013.[dolen farw]
- ↑ "Female comic is tickled pink". thesun.co.uk.