[go: up one dir, main page]
More Web Proxy on the site http://driver.im/
Tymhorau

Gaeaf
Gwanwyn
Haf
Hydref

Cyfnod o amser, neu 'dymor', yw'r gwanwyn rhwng y gaeaf a'r haf. Yn ôl y calendr Gwyddelig, mis Chwefror, mis Mawrth a mis Ebrill ydyw. Yn ôl y meterorlegydd, fodd bynnag, mae pob tymor yn dri mis o ran hyd, gyda'r haf yn cynnwys y tri mis cynhesaf, y gaeaf y tri mis oeraf a'r gwanwyn (fel yr hydref) yn y canol rhwng y ddau. Mae hyn yn golygu fod y tymhorau'n gwahaniaethu o le i le e.e. yn hemisffer y de mae'r gwanwyn ym Medi, Hydref a Thachwedd; maent ar yr un pryd yn nodi'r tri mis canlynol fel cyfnod ein gwanwyn ni yma yng Nghymru: Mawrth, Ebrill a Mai. Mae'r seryddwr, fodd bynnag, yn edrych ar echelin y ddaear i benderfynnu'r tymhorau h.y. pa bryd y ceir y mwyaf o olau dydd ydyw canol yr haf. Mae'r cyhydnos ar 20 Mawrth yn hemisffer y gogledd - sef canol y gwanwyn. Ond gan fod tymheredd y ddaear yn codi ychydig ar ôl yr haul, mae gwahaniaeth rhwng y ddwy system uchod. Mae'r gwanwyn i'r garddwr, fodd bynnag, yn dechrau pan fo'r ddaear yn ddigon cynnes i'r blodau a'r llysiau a'r ffrwythau dyfu.

Lili wen fach neu eirlys - un o flodau cynta'r gwanwyn yng Nghymru.
Blodau'r gwynt (Anemone nemorosa) ger Radziejowice.

Y gwanwyn Celtaidd

golygu

Arferai'r Celtiaid a phobl dwyrain Asia ystyried cyhydedd y gwanwyn fel canol y gwanwyn - sy'n wyddonol gywir, tra bo pobloedd eraill yn ystyried cyhydedd y gwanwyn fel dechrau'r gwanwyn. Mae gwanwyn y Celt, felly, rhwng 4 Chwefror a 5 Mai. Mae rhai pobloedd yn diystyru hyd y dydd e.e. maen nhw'n dathlu dechrau'r gwanwyn yn Ne Affrica, Awstralia a Seland Newydd ar y cyntaf o Fedi. Hen ŵyl Geltaidd yw Imbolc, sydd ar y cyntaf neu'r ail o fis Chwefror, sef dechrau'r Gwanwyn, hyd at ei diwedd ar Galan Mai (neu 'Beltane').

Symbol

golygu

Defnyddir y gwanwyn fel symbol pwerus o ddeffroad, boed hynny yn ddeffroad natur, megis awdl arobryn 'Y Gwanwyn' gan Dic Jones neu'n ddefroad gwleidyddol a ieithyddol. Mae'n symbol o gynnwrf rhywiol hefyd ac o lasoed 'Gwanwyn y dyddiau gwynach', chwedl Alan Llwyd.[1]

Llenyddiaeth

golygu
Nid yw'r Gaea'n dragywydd - daw yr haf
wedi'r holl ystormydd
Am hyn y rhodiwn yn rhydd
Yn llaw Duw mae'r holl dywydd.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Rhwng Pen Llŷn a Phenllyn' gan Alan Llwyd, Gwasg Christopher Davies, 1796
Chwiliwch am gwanwyn
yn Wiciadur.