[go: up one dir, main page]
More Web Proxy on the site http://driver.im/
Gweler hefyd: Calluna vulgaris - grug cyffredin Ewrop
Grug
Grug Cernyw (Erica vagans)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Ericales
Teulu: Ericaceae (rhan)
Genera

Calluna
Cassiope
Daboecia
Epacris
Erica
Gaultheria
Leucopogon
Phyllodoce

Cyflwyniad

golygu

Planhigion blodeuol o'r teulu Ericaceae yw grug. Mae'r mwyafrif ohonynt yn llwyni bychain.

Dyma'r llwyni isel sy'n aml yn carpedu tir tenau, sur ein bryniau a'n mynyddoedd ac yn eu lliwio'n borffor a phinc at ddiwedd haf.

Erthygl gyfansawdd yw hon yn olrhain hanes tri math o rug cyffredin yng Nghymru sydd yn cael eu gwahanu yn llwyr yn y ffynonellau gwyddonol ac ecolegol ond sydd yn aml yn cael eu cyfuno yn y traddodiadau llenyddol. Ceisir eu gwahaniaethu gyda gy (grug yr ysgub Calluna vulgaris), gm (grug y mêl Erica cinerea) a gc (grug croesddail Erica tetralix) lle bo'n briodol.

Tiriogaeth

golygu

(Gy) Ewrop ac Asia Ganol. Wedi ei gyflwyno i ogledd America ac yn blagus yn Seland Newydd[1]

Ecoleg

golygu

Planhigyn is-haenol mewn coedwig yw dewis cynefin cysefin grug yr ysgub Calluna vulgaris, ond cafodd ei ffafrio gan ddod yn brif ran o rosdiroedd a gweunydd trwy ei losgi a'i dorri dros filenia ac yn enwedig ym Mhrydain yn y ganrif ddiwethaf a chynt i feithrin poblogaethau chwyddedig o rugieir yn y gorllewin a'r gogledd.[1]

Grug yr ysgub yw'r rhywogaeth mwyaf ymledol o'r tair yn gyson gyda grug y mêl Erica cinerea yn aml yn gymysg. Mae'r gyntaf yn ei blodau yn benthyg i'r ucheldir wawr borffor golau gyda'r ail yn cryfhau'r effaith borfforaidd gyda'i flodau o liw dwysach. Mae'r grug croesddail Erica tetralix yn gyfyngedig i bantiau mawnog gwlyb lle mae ei flodau, tebyg i'r ail rywogaeth, o liw mwy cochaidd.

Fe'u peillionnir gan wenyn yn y de a chan y gwynt neu thripsod (neu bryfed tarannau) Ceratothrips ericae yn y gogledd.[1]

Enw safonol Cymraeg

golygu
Enwau safonol

Mae tri math o rug yn tyfu'n wyllt yng Nghymru, sef grug yr ysgub Calluna vulgaris (gy), grug y mêl Erica cinerea (gm) a grug croesddail Erica tetralix (gc).

Enwau Cymraeg eraill

Grug yr ysgub
amriwraeth blewog, grug cyffredin, grug y mêl, grug y mynydd, grug mawr, myncog

Grug y mêl
clychau'r grug, grug cochlas, grug lledlwyd, grug llwydlas, grug pumdalen, grug clochog

Grug croesddail
grug croesddeiliog, grug deilgroes, grug y gors

Disgrifiad

golygu
Grug yr ysgub - dail fel cen mân a'r blodau porffor golau yn ysbigog ar flaen y goes. Y calycs yw'r darn addurniadol o'r blodyn, nid y corola fel gweddill y teulu.
Grug y mêl - corola ar ffurf cloch, lliw porffor Ilachar mewn clystyrau ar hyd rhan uchaf y goes.
Grug croesddail - corola pinc golau, mewn clwstwr ar flaen brigau llwyn llwydaidd ei ddail, yn tyfu'r rhan amlaf mewn llefydd gwlypach na'r ddau arall.

Tarddiad yr enwau

golygu

O wreiddyn Indo-Ewropeaidd *u̯erǵʰ- oedd yn golygu ‘nyddu, troi’, hwyrach ar sail y defnydd o'r planhigyn i doi ac i wneud rhaffau. Mae Calluna (gy) yn dod o'r Hen Rroeg kallū́nō ‘rwy'n ysgubo'n lân’, cyfeiriad at ei ddefnydd mewn ysgubau o bosibl.

Enwau lleoedd

golygu

Rhaid gochel rhag cymysgu'r enw grug efo crug sef boncyn fel yn Bryncrug, neu twmpath fel yn Eisingrug (Meirion).

  • Llanrug - Llanfihangel yn Rug (gy)
  • Grugor (-or =nifer, fel yn ysgubor)
  • Rhosllannerchrugog (gy)
  • Mynydd y Grug (gy, gm?), enw Dyffryn Nantlle ar Mynydd Mawr.
  • Rhigos, Meirion
  • Ystad y Rug, ger Corwen
  • Allt Rugog, ym Mhenllyn
  • Cefengrugos, Ceredigion

Arferion

golygu
  • Un o hoff ddyletswyddau plant yn y gwanwyn cynnar oedd helpu llosgi mynydd, er mwyn cael tyfiant newydd ar hen rug - mynd i weithio, hynny yw, goddeithio o goddaith am goelcerth (aeth goddeithio i gael ei ynganu yn creithio mewn rhannau o Ben Llŷn[2])
  • Haf 1912: ....Roedd rhai o fechgyn Cwm y Glo a Llanrug yn ennill ceiniog neu ddwy oddi ar yr ymwelwyr hefyd, ond ym mis Awst y flwyddyn honno aeth eu hawch am arian dros ben llestri. Mae'n ymddangos eu bod yn casglu sypiau o rug yn ei flodau ac yn eu taflu i gerbydau'r ymwelwyr tra'n teithio heibio ar eu ffordd i Lanberis. Fel arfer roedd yr ymwelwyr yn talu arian man am y blodau, ond nid pob un. Daeth y rheini dan lach yr hogia' ifanc, a dechreuwyd taflu cerrig a llaid at yr ymwelwyr nad oedd yn fodlon talu am y grug. Ymddangosodd rhieni y bechgyn yn y llys a'u siarsio i reoli eu plant.[3]

Llenyddiaeth

golygu
Y Beibl

Jeremeia 27.6: efe a fydd fel grug yn y diffaethwch.

Hen ddywediad(au?)

Aur dan y rhedyn, arian dan yr eithin, newyn dan y grug.

Rhyddiaith

Te yn y Grug (teitl un o nofelau Kate Roberts)

Canoloesoedd

"Cynnal goreugwas grugwellt" (Rhys Goch Eryri)

I'r teg nos rhoir tŷ grisial - i fagu
Pendefigaeth feddal
I'r grug dewr, y graig a dâl
Noeth weriniaeth yr anial.
Pedrog

Barddoniaeth hiraethus Rhamantaidd y 20ed ganrif gynnar

Grug y mynydd yn eu blodau
Edrych arnynt hiraeth ddug,
Am gael aros ar y bryniau,
Yn yr awel efo'r grug.
Ceiriog

....ond mae 'nghalon ar y mynydd
Efo'r grug a'r adar man.
Ceiriog

Ond cefais gan yr hon a'm dug
Fy ngeni'n frawd i flodau'r grug.
R. Williams Parry

Rwy'n caru pob erw o hen Gymru wen
Ei chreigiau a'i rhosydd di-raen.
Pob mynydd a choron o rug ar ei ben
Pob cilfach a cheunant a gwaun.
Crwys

Barddoniaeth a rhyddiaith myfyrdodol

There must be the mountain receiving its degree in purple and ermine.
R. S. Thomas

Tlws eu tw' liaws tawel - gemau teg
Gwmwd haul ac awel,
Crog glychau'r creigle uchel,
Fflur y main, ffiolau'r mêl
Eifion Wyn (Clychau'r Grug)

Gwridog gymydog rhedyn - o deg raen
Ydyw'r grug flodeuyn;
Cyfoethog gunnog gwenyn
A mail i ddal miel i ddyn.
Ioan Brothen

Ar sedd iach rhosydd uchel - y mae'r grug
Dymor gwres ac oerfel;
Tw, a'u gwawr fel teg gwrel
Llwyni teg - gwinllan y mêl.
Ioan Brothen

Defnydd

golygu

Roedd grug yn cael ei hel ar gyfer amrywiol ddefnydd, a 'gruga' yn enw ar hyn.

Gwnâi wely cyfforddus i ddyn ac anifail, a defnydd i wneud ysgubellau, basgedi, rhaffau ac i doi tai, hefyd mewn gwaith plethwaith a dwb (wattle & daub) mewn tai ffram bren.

Cai ei ddefnyddio i lifo defnydd yn lliw oren, yn y broses o wneud lledr, ac i fragu cwrw.

Arferid y gair grugen yn Sir Ddinbych am gangen o rug a ddefnyddid fel tanwydd.

Roedd hefyd yn gysgod a bwyd i ddefaid a grugieir. Mae Mabey[4] yn cofnodi fod grug yn cael ei ddefnyddio yng Nghlwyd i amddiffyn brics rhag niwed ar y siwrne dram o Fwcle i Gei Conna. Gwellt oedd y defnydd arferol i hyn, and gwaharddwyd ei ddefnydd mewn allforion i'r Iwerddon yn ystod clwy'r traed a'r genau ym mhumdegau a chwedegau'r ganrif ddiwethaf. Dywedir i dipyn o farchnad ddatblygu mewn grug oedd yn cael ei hel ar y bryniau o gwmpas Bwcle a'i dwmpathu yn yr iardiau brics.

Yn yr un modd defnyddid grug gynt gan fonedd y plasdai i bacio cyrff grugieir i'w hanfon i Lundain ar y trên:

Sunday 15th Awst 1880: A very hot day, wind easterly. I went and bathed this morning at the Big Pool. Heatley and I spent a quiet day, and during the afternoon went on Moel Offrwm to gather heather to pack the grouse in: we found it very hot work. I sent off 3 boxes of grouse this evening. [5]

Mae'r cofnod hwn o'i gymharu a llun GoogleEarth heddiw, yn awgrymu nad oes cymaint o rug ar Foel Offrwm ag a fu yn oes Edwards (yn anterth cyfnod y grouse moor)[6]

Mae'r arferiad o fynd a chychod gwenyn i'r mynydd yn parhau o hyd, i fanteisio ar fêl tywyll y grug. Gwneid diod arbennig iawn o'r mêl ers talwm sef medd, hefyd meddyglyn (metheglin), yn ôl Geiriadur Chambers, gwirod y meddyg. Cynhyrchid cwrw o rug yn gynnar iawn yn hanes dynoliaeth, ac yn ddiweddar iawn mae Albanwr wedi defnyddio hen rysait Aeleg fel sail i gwrw modern llwyddiannus, gan greu gwaith yn lleol i lawer yn cynaeafu blodau a blaen-dyfiant grug.

Mae mêl o rug yr ysgub yn brif gynhwysyn y ddiod Drambuie[1][7].

Soniodd Bob Owen yn ei Diwydiannau Coll (1943): "Diwydiant i ferched oedd cynnull grug i'w werthu. Gynt gellid gweld dwsin neu fwy o wragedd a phlant gyda merlyn bob un, a dau swp o rug o boptu iddo, yn crogi wrth gorn y stradur [sic. strodur?] a fyddai ar ei gefn, a rhwng y ddau swp grug y byddai swpun bychan o fawn, a'r cyfan wedi'i rhwymo rheffynnau o bilion pabwyr wedi'u gwneud yn dda." Byddai marchnad iddynt a cheir enwau fel "Turf Square" yn yr hen drefydd. Wele bennill yn cyfeirio at y gruga:

"Y gwŷr yn gweithio trwy y dydd,
A gruga bydd y gwragedd,
Ni chânt druain unrhyw dro
Ddim and o dynno'u dannedd."
Gutyn Peris (1769 – 1838).

Cyfieithiad o Clwt y Tywyrch yw Turf Square (Pendeits heddiw yng Nghaernarfon?).

Y son lleol yw mai o gytir ger Tan y Coed, Llanrug y deuai peth o'r mawn a werthwyd yno [8]

Mae Ioan Mai yn O Ben Llŷn i Botany Bay yn son am hel grug mewn traethawd yn eisteddfod leol Trefor, Llŷn ac am fywyd caled y trigolion pan oedd hawliau torri mawn a grug yn cael eu cyfyngu amser cau tir comin tua chwarter cyntaf y 19g:

...gwragedd y fro ... yn codi gyda'r wawr a gadael eu plant yn y tŷ. Yna troi am yr Eifl i dynnu baich o rug, a mynd a fo ar eu cefnau i Bwllheli, a hynny heb damaid o frecwast" (pellter o saith milltir, un ffordd). "Gwerthu'r grug i'w roi dan boptai y dref am bedair ceiniog, a defnyddio'r arian i gael bwyd i'r plant Gyda'r nos mynd drachefn i'r mynydd i baratoi baich at fore trannoeth."

Gerddi

golygu

Mae defnydd helaeth o rug mewn gerddi, efo gwahanol rywogaethau wedi'u croesi a'u dewis. Pan fo grug yr ysgub yn tyfu ar sbwriel mwyngloddio mae lliw'r dail yn aml yn newid i felyn, oren a choch, a llawer o'r rhain wedi'u hamlhau o doriadau ac yn effeithiol iawn, yn enwedig yn y gaeaf. Mae tymor iliw blodau grug mor hir fel ei bod yn bosibl cael lliw yn yr ardd bron gydol y flwyddyn, trwy ddefnyddio gwahanol fathau o rug y gaeaf (Erica carnea) o'r Cyfandir i lenwi'r bwlch rhwng diwedd a chychwyn tymor blodeuo'r grug brodorol.

Symboliaeth

golygu

Mae'n debyg mai yn Ucheldir yr Alban y cychwynnodd y gred fod grug gwyn yn lwcus, cred gyffredinol erbyn hyn gan i'r Frenhines Fictoria ei boblogeiddio. Defnyddid y tri math o rug brodorol fel bathodynnau claniau'r Alban, grug yr ysgub McDonnell, grug y mel McAlister a grug croesddail McDonald. Mae hen bren grug yr ysgub yn galed fawn ac fe'i defnyddid i wneud carnau dagr seremoniol (dirk) yr Alban.

Teithi tramor

golygu

Defnydd traddodiadol y pennau catiau (briar pipes) gorau yw boncyff cordeddog y grugwydden (Erica arborea) sy'n rhan o maquis Ffrainc.

Defnyddid byrnau o egin grug yr ysgub fel sylfaen i ffyrdd yn y Fforest Newydd, Hampshire.[1]

Fe'i defnyddiwyd (gy) ers 4000 o flynyddoedd fel hopys yn yr Alban i gynhyrchu heather ale gan reoli'r eplesiad gyda'r rhedynen Osmunda regalis

Ffurfia gy a gc liw melyn i lifo gwlan. Yn Sbaen mae'n borthiant i wartheg. Amrywiol gwltifarau gardd wedi ei ddatblygu. Cystadlu'n effeithiol fel estronydd yn erbyn gweunwellt cynhenid Seland Newydd[9].

Y ffurfiau gwyn yn cael eu marchnata yn ymwthiol gan "sipsiwn" ayb. yn Llundain.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Cydymaith Byd Amaeth, Cyf. 2 Huw Jones, 2000
  • A Dictionary of Plant Lore, R. Vickery, 1995
  • Flora Britannica, R. Mabey, 1996
  • Enwau Cymraeg ar Blanhigion, Davies & Jones, 1995

Prif awdur: Maldwyn Thomas, gyda chyfraniadau gan aelodau eraill o Gymdeithas Edward Llwyd. Paratowyd sail yr erthygl ar gyfer Prosiect Llên y Llysiau Cymdeithas Edward Llwyd

Mathau o rug

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Mabberley, D.J. (1987) Mabberley's Plant Book: a portable dictionary of plants, their classification and uses (3ydd golygiad). CUP
  2. sylw personol i DB gan Tom Jones
  3. Colofn Chwilota, Eco’r Wyddfa Medi 2012
  4. Mabey, R. (Xxxx) Flora Britannica pppp
  5. Dyddiadur Hela CEM Edwards, Dolserau, Dolgellau. (Archifdy Gwynedd, Dolgellau)
  6. http://www.llennatur.com/files/u1/Cylchgrawn110.pdf. tudalen 7
  7. "Drambuie" on @Wikipedia: https://en.wikipedia.org/wiki/Drambuie?wprov=sfsi1
  8. cys. pers. Mary Vaughan Jones (DB)
  9. https://www.teara.govt.nz/en/grasslands/page-1