[go: up one dir, main page]
More Web Proxy on the site http://driver.im/

Pen-y-bryn, Abergwyngregyn

plasdy yn Abergwyngregyn, Gwynedd
(Ailgyfeiriad o Garth Celyn)

Maenordy deulawr gyda rhan ohono'n dyddio'n ôl i gychwyn y 12g ydy Pen-y-bryn neu Pen y Bryn (ac yn anghywir: Garth Celyn), tua 200 metr o Abergwyngregyn, Gwynedd a thua 5 milltir i'r dwyrain o Fangor; saif ar fryn coediog sy'n edrych dros y pentref ac Afon Menai. Yr enw cyfoes am y tŷ yw Pen y Bryn. Fe'i gwnaed o garreg leol a tho llechen ar wahanol adegau, ac ar chwe chyfnod gwahanol. Mae ganddo dŵr pedair llawr anghyffredin a gysylltir gan rai gyda Llywelyn Fawr a Siwan. Cyfeirnod OS: SH653726. Ceir dogfen sy'n dyddion ôl i 1553 am breswylydd o'r enw Rhys Thomas a'i wraig Jane yn prynnu'r tŷ a'r tiroedd o'i amgylch pan oedd wedi mynd a'i ben iddo; o'r herwydd mae dyddio carbon yn rhoi dyddiadau ar ôl 1553.

Pen y Bryn
Mathmaenordy, tŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadAber Edit this on Wikidata
SirAber, Aber Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr48.5 metr, 48.3 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.2347°N 4.0117°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II*, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwCN218 Edit this on Wikidata

Yn hanesyddol, saif mewn safle strategol bwysig, lle mae'r hen ffordd o'r dwyrain dros Fwlch y Ddeufaen yn disgyn at arfordir Afon Menai a'r fferi drosodd i Lanfaes ar Ynys Môn.

Yn 1988 honodd perchennog y tŷ Kathryn Gibson a Myrddin ap Dafydd mai'r adeilad hwn yw "Garth Celyn", Llys Tywysogion Gwynedd,[1] ond mae ymchwil Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn 2012 yn datgan "nad oes dim tystiolaeth argyhoeddedig i ddweud mai Pen-y-Bryn yw "gwir safle palas Llywelyn".[2] Ategwyd hyn gan Hywel Thomas o Gwmni Adfywio Abergwyngregyn a Dewi Roberts, Cadeirydd y Cyngor lleol Credwn ni a llawer un arall fod y dystiolaeth sydd ar gael yn ffafrio'r safle arall sydd yng nghanol y pentre.

Dyddio Pen y Bryn

golygu

Ceir cofnod fod adeilad - rhywle ar dir Pen y Bryn - wedi ei godi rhwng 1303-1306, cofnodir y manylion a bod gwith eitha trwm a oedd yn cynnwys cludo cerrig wedi'u siapio a chalch i wnued mortar. Does dim olion o gerrig mawr ar y safle arall - safle'r Mŵd, a chredir fod y safle yn y fan honno braidd yn fach i lys eitha mawr.[3] Gwyddys hefyd i Rys a Jane Thomas fyw yma yn 1553, gan ei brynnu oddi wrth Coron Lloegr. Mae'r pren yn nho'r prif dŷ wedi'u dyddio i rhwng 1619 a 1624.[4] Gwyddys hefyd fod y tŷ wedi'i adeiladu ar chwe chyfnod a bod hanes hir i'r tŷ cyn iddo gael to newydd tua 1620.[5] Codwyd y tŵr ar ôl gweddill y tŷ a chafwyd gryn ychwanegiadau yn y 18g.

Llys Tywysogion Gwynedd yn Aber?

golygu

Roedd gan Dywysogion Gwynedd lys yn Abergwyngregyn. Mae ei union leoliad yn bwynt dadleuol; dywedir fod dau safle'n bosibl, naill ai ger Pen y Mŵd, gerllaw ar lan yr afon, a'r llall ar safle Garth Celyn.[6] Ceir adfeilion o'r Oesoedd Canol yng Ngarth Celyn, wedi cael eu dehonglu fel gwaith maen ond sy'n anodd eu ddyddio.[7][8] Wrth y Mŵd mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd wedi dadorchuddio adeilad o Oes y Tywysogion, a'i nodi fel llys brenhinol.[9][10][11] Ers 1988, haerwyd mai safle'r tŷ presennol yw safle llys y Tywysogion,[1]

Cyfnod y Tywysogion

golygu

Yn wreiddiol, Aberffraw ym Môn oedd prif lys brenhinllin Gwynedd, ond Garth Celyn, prif lys cantref Arllechwedd, oedd y prif lys yn ystod teyrnasiad Llywelyn Fawr, a pharhaodd yn brif lys yng nghyfnod ei olynwyr Dafydd ap Llywelyn a Llywelyn ap Gruffudd. Er bod y tywysogion yn dal i fynd "ar gylch" ar adegau o'r flwyddyn i gynnal y llys brenhinol yn lleol, Aber oedd safle llys Tywysogaeth Cymru annibynnol yn y 13g. Yn y llys yn Abergwyngregyn y bu farw Y Dywysoges Siwan, gwraig Llywelyn Fawr, a'u mab Dafydd ap Llywelyn. Yma hefyd y cafwyd Gwilym Brewys yn ystafell wely Siwan yn 1230. Ceir nifer o lythyrau a dogfennau eraill sy'n nodi eu bont wedi eu hysgrifennu yng "Ngarth Kelyn". Ganed Y Dywysoges Gwenllian, merch Llywelyn ap Gruffudd ac Elinor de Montfort, yn y llys ar 12 Mehefin 1282.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 (am ddim) [1] Archifwyd 2012-03-13 yn y Peiriant Wayback, (archif) [2] Ian Skidmore, Daily Post, 19 Tachwedd 2001
  2. Golwg29 Tachwedd 2012; tudalen 4 - 5.
  3. A Brief Report on Pen y Bryn and Aber, Gwynedd. Paul Martin Remfry. Castle Studies Research & Publishing Astudiaethau Castell Ymchwil A Cyhoeddi. 2012. tud 110-112. [3] Archifwyd 2014-04-07 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 5 Tachwedd 2012
  4. Main range tree-ring dated 1619-24. Tree-ring dating commissioned by the North-west Wales Dendrochronological Project in association with RCAHMW, and reported in Vernacular Architecture 41 (2010), tud. 114: ABER, Pen-y-bryn (Garth Celyn) (SH 6582 7273) Torrwyd y coed rhwng 1619–24. Archifwyd 2012-04-01 yn y Peiriant Wayback Gwefan Coflein
  5. A Brief Report on Pen y Bryn and Aber, Gwynedd. Paul Martin Remfry. Castle Studies Research & Publishing (Astudiaethau Castell Ymchwil A Cyhoeddi, 2012), t. 6. http://www.castles99.ukprint.com/PenyBryn.pdf Archifwyd 2014-04-07 yn y Peiriant Wayback, adalwyd 5 Tachwedd 2012
  6. Tystiolaeth Garth Celyn. Gweneth Lilly, Llanfairfechan. Y Traethodydd, Cyf. CLIII (644-647) 1998 tt. 145-7. [4] Archifwyd 2014-05-06 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 21 Tachwedd 2012
  7. "The complex included other structures, including a barn or gatehouse (possibly rebuilt about 1700 on earlier stonework) and the present tower."PEN-Y-BRYN, BARN, ABER Archifwyd 2012-04-01 yn y Peiriant Wayback; adalwyd ???
  8. A Brief Report on Pen y Bryn and Aber, Gwynedd. Paul Martin Remfry. Castle Studies Research & Publishing Astudiaethau Castell Ymchwil A Cyhoeddi. 2012. Tud 113. [5] Archifwyd 2014-04-07 yn y Peiriant Wayback
  9. "THE LLYS AT ABER, HOUSE EXCAVATED AT PEN Y MWD" Archifwyd 2012-04-01 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 21 Chwefror 2011
  10. ""ABER CASTLE OR PEN-Y-MWD MOUND"". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-01. Cyrchwyd 2012-11-22.
  11. John Roberts, archaeologist for the Snowdonia National Park Authority. Final viewing for Abergwyngregyn's Welsh princes site at news.bbc.co.uk