Eglwys Gadeiriol Sant Basil
Eglwys gaderiol uniongred Rwsiaidd yng nghanol Moscfa, ar y Sgwâr Coch, yw Eglwys Gadeiriol Sant Basil. Hon yw un o henebion mwyaf cyfarwydd Rwsia. Enw swyddogol yr eglwys yw Eglwys Cyfryngdod y Forwyn Fair ar y Ffos (Rwsieg Собо́р Покрова́, что на Рву́ / Sobor Pokrova, chto na Rvu).
Delwedd:Храм Василия Блаженного №2.JPG, 00 0568 Saint Basil's Cathedral - Moscow.jpg | |
Math | Eastern Orthodox church building, atyniad twristaidd, tirnod |
---|---|
Enwyd ar ôl | Intercession of the Theotokos |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Sgwâr Coch |
Sir | Tverskoy District |
Gwlad | Rwsia |
Cyfesurynnau | 55.7525°N 37.623056°E |
Arddull pensaernïol | Russian architecture |
Statws treftadaeth | safle treftadaeth ddiwylliannol ffederal yn Rwsia |
Sefydlwydwyd gan | Ifan IV |
Cysegrwyd i | Theotokos |
Manylion | |
Deunydd | bricsen |
Esgobaeth | Eparchaeth Moscfa |
Adeiladwyd yr eglwys gan Ifan IV rhwng 1555 a 1561 er parch am oresgyniad dinas Kazan a Tatariaid y Volga. Yn ôl chwedl poblogaidd (sy ddim yn wir), dallodd Ifan IV y pensaer, Postnik Yakovlev fel na byddai'n cynllunio adeilad godidocach na'r gadeirlan.
Ychwanegwyd capel ar ochr ddywreiniol y safle dros fedd Sant Basil y Ffwl Sanctaidd gan Tsar Fedor Ivanovich ym 1588. Y capel hwnnw yw ffynhonnell enw poblogaidd yr holl eglwys. Heddiw mae'n cynnwys naw capel ar yr un safle. Cydnabyddir Eglwys Gadeiriol Sant Basil heddiw fel un o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO.