[go: up one dir, main page]
More Web Proxy on the site http://driver.im/

Diwylliant materol

Enw ar yr holl wneuthurbethau, adeiladwaith, a gwrthrychau a greir gan fodau dynol yw diwylliant materol. Mae offer, arfau, addurniadau, dodrefn, gweithiau celf, dillad, ac adeiladau i gyd yn enghreifftiau o ddiwylliant materol. Ffordd arall o'i ddiffinio yw'r hyn a fyddai'n parhau i fodoli ar y ddaear, am gyfnod o leiaf, os oedd y ddynolryw wedi darfod o'r tir.

Mae diwylliant materol yn tynnu sylw anthropolegwyr ac ysgolheigion astudiaethau diwylliannol, yn ogystal ag archaeolegwyr sydd yn dod o hyd i arteffactau ac olion adeiladau fel tystiolaeth o gymdeithasau hanesyddol.