[go: up one dir, main page]
More Web Proxy on the site http://driver.im/

Derfel Gadarn

sant a brenin Cymreig o'r 6g

Sant o Gymro oedd Derfel Gadarn (c. 566 – 6 Ebrill 660). Yn ôl Bonedd y Saint roedd yn fab i Hywel ap Emyr Llydaw ac yn frawd i Arthfael. Dywedir iddo astudio gyda'i frawd yn ysgol Illtud Sant yn Llanilltud Fawr. Dethlir ei ddydd gŵyl ar 5 Ebrill, yn flynyddol.

Derfel Gadarn
Eglwys Llandderfel, Gwynedd
Ganwydc. 566 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw6 Ebrill 660 Edit this on Wikidata
Ynys Enlli Edit this on Wikidata
Man preswylLlandderfel Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmynach Cristnogol Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl5 Ebrill Edit this on Wikidata
TadHywel fab Emyr Llydaw Edit this on Wikidata

Dywedir iddo gael ei eni yn 566, a'i fod yn un o ddim ond saith o farchogion Arthur i fyw wedi brwydr Camlan. Dywedir iddo fyw oherwydd ei gryfder. Ysgrifennodd Tudur Penllyn amdano:

Derfel mewn rhyfel, gwnai'i wayw'n rhyfedd,
Darrisg dur yw'r wisg, dewr yw'r osgedd.

Canodd Lewis Glyn Cothi i Hywel ap Dafydd ap Goronwy o Wernan:

Pan vu, a llu yn eu lladd,
Ar Gamlan wyr ac ymladd;
Dervel o hyd ei arvau
A ranau ddur yno'n ddau.[1]

Mewn cerdd o'r 15g dywedir ei fod yn gysylltiedig ag Ynys Enlli a'i fod yn perthyn i Emyr Llydaw; ceir cyfanswm o 46 o gerddi'n cyfeirio ato yn yr Oesoedd Canol. Erbyn diwedd yr Oesoedd Canol fodd bynnag, cysylltir ef â Llydaw, ond cred rhai (cf. Bartrum 1993, 420: "Llydaw") mai enw ar ardal yn ne-ddwyrain Cymru oedd hwnnw a bod cysylltiad rhyngddo ag eglwys yn Llanfihangel Llantarnam, Sir Fynwy, eglwys nad yw bellach i'w chael. Fel Llandderfel, unwaith roedd hon hefyd yn gyrchfan i bererinion. Nodwyd yn 1535 fod y casgliad yn 26s. 8c yn 'Capella S'ti Dervalli' ac yn archwiliad Maenor Llandimor, yn 1597–8, nodir bod yma ffynnon yn dwyn ei enw.[2]

Eglwysi

golygu

Ei brif sefydliad yw eglwys Llandderfel, ger Y Bala, Gwynedd. Ceir Capel Llandderfel ger Cwmbran hefyd, ond adfail ydyw rwan. Fe'i cysylltir â Brwydr Camlan ac Ynys Enlli hefyd mewn rhai traddodiadau.

Delw Derfel Gadarn

golygu

Cedwid delw o'r sant yn ei eglwys yn Llandderfel. Ar ddiwedd yr Oesoedd Canol a dechrau'r cyfnod modern roedd yn cael ei addoli gan y plwyfolion a phererinion a deithiai yno i gael eu gwella o afiechydon. Roedd yn iachau gwartheg hefyd. Roedd yn arferiad cludo'r delw i fyny bryn ger yr eglwys mewn gorymdaith ar y Pasg. Caniateid i blant farchogaeth ceffyl Derfel (efallai i gael ei fendith neu warchodaeth) ar ŵyl mabsant Derfel. Llosgwyd y ddelw yn Llundain yn ystod y Diwygiad Protestannaidd (gweler Llandderfel).[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Gwaith, Rhydychen, 1837, t.216, ll.47–50). Gweler hefyd: LBS II.333, n.3.
  2. people.bath.ac.uk; Archifwyd 2013-05-27 yn y Peiriant Wayback adalwyd 6 Ebrill 2017.
  3. llgc.org.uk; Welsh Classical Dictionary; adalwyd 6 Ebrill 2017.