Derwyddon Dr Gonzo
Band ffync/ska Cymreig o Ogledd Cymry oedd Derwyddon Dr Gonzo. Wedi cyrraedd y lle cyntaf yn y siartiau Cymreig, mae eu sengl, K.O/Madrach wedi cael ei chwarae ar yr awyr ar BBC Radio Cymru, BBC Radio 1 ac ar Radio Serbiaidd.
Enghraifft o'r canlynol | cynulliad cerddorol |
---|---|
Dod i'r brig | 2005 |
Genre | ffwnc |
Gwefan | http://www.myspace.com/derwyddondoctorgonzo/ |
Aelodau
golygu- Jamz: offerynnau taro, rapio
- Cai Sgons: drymiau, ffon glaw
- Smilin Tom: gitar
- Bomshell: gitar rythm, llais
- Berwyn BB: trwmped
- Dewi Ffowcyn: gitar fâs
- Ivan David: allweddellau, llais
- Sion Corn: trwmped
- Mei Slei: sacs tenor
Disgograffi
golygu- Ffandango (2006)
- K.O/Madrach (Ciwdod, 2007)
- Chaviach/Bwthyn (Copa, 2008)
- Stonk! (Copa, 2009)
Gwobrau ac anrhydeddau
golygu- Brwydr y Bandiau yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Eryri a'r Cyffiniau 2005
- "Band Gorau" a "Band Byw Gorau" yn Gwobrau Roc a Phop Radio Cymru 2009
Ifan Dafydd
golyguMae un o gyn-aelodau'r grŵp, yr allweddellwr, Ifan Dafydd, bellach yn gynhyrchydd a cherddor ac wedi creu a chydweithio gydag amryw o artistiaid ar drefnu neu aildrefnu caneuon.
Y Derwyddon
golyguNoder y bu grŵp pop a gwerin, Y Derwyddon yn yr 1960au hwyr. Roedd rhain yn grŵp canol y ffordd a heb berthynas gyda Derwyddon Dr Gonzo.