Charon (mytholeg)
Duw clasurol sy'n gwarchod y fynedfa gyntaf i'r Is-Fyd (Hades) yn chwedloniaeth Gwlad Groeg a Rhufain; mab y duw Erebus a'r dduwies Nox (Y Nos). Mae'n cludo eneidiau'r meirw, sy'n cael eu hebrwng gan y duw Mercher (Hermes), yn ei gwch fferi dros Afon Styx ac Afon Acheron ar eu ffordd i'r Is-Fyd ac yn cael ei dalu obol (obolus) am ei wasanaeth. Ni chaniateid i'r rhai nad oeddynt wedi derbyn gwasanaeth angladd groesi yn ei gwch ac fe'u gorfodid i dreulio can mlynedd yn aros ar lan yr afon yn gyntaf. Pe bai bod meidrol byw yn troi i fyny ar lan Afon Styx i'w chroesi disgwylid iddo ddangos i Charon y Gangen Euraidd yr oedd wedi derbyn gan y Sibyl; carcharwyd Charon am flwyddyn unwaith gan y duwiau am iddo gludo'r arwr Ercwlff (Herakles / Hercules) drosodd heb arwydd y Sibyl. Mae'n cael ei bortreadu fel hen ŵr cydnerth, o bryd a gwedd annymunol, a chanddo farf wen hirlaes a llygaid treiddgar. Mae ei wisg yn garpiog a'i dalcen yn grychog. Am fod disgwyl iddynt dalu Charon arferid rhoi darn o arian dan dafod y meirw.
Enghraifft o'r canlynol | duw Groeg, death deity, psychopomp |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ffynonellau
golygu- J. Lempriere, A Classical Dictionary (gyda nodiadau ychwanegol gan F.R. Sowerby) (Llundain, d.d.).
- Pears Encyclopaedia of Myths and Legends // Ancient Greece and Rome (London, 1976).