[go: up one dir, main page]
More Web Proxy on the site http://driver.im/

Ceffyl

anifail dof
Ceffyl
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Perissodactyla
Teulu: Equidae
Genws: Equus
Rhywogaeth: E. caballus
Enw deuenwol
Equus caballus
Linnaeus, 1758
Fideo gan Gyfoeth Naturiol Cymru - yn dangos ceffylau gwedd yn gweithio mewn coedwig.

Carnolyn mawr dof, llysysol, odfyseddog a charngrwn yw ceffyl (Equus ferus caballus)[1] sy'n perthyn i deulu'r Equidae. Gelwir y fenyw yn gaseg, y gwryw yn stalwyn neu'n farch a'r ceffyl ifanc yn ebol.

Mae'n un o ddau isrywogaeth o Equus ferus sydd wedi goroesi; esblygodd dros gyfnod o 45 i 55 miliwn o flynyddoedd, o fod yn greadur bychan aml-fys, Eohippus, i anifail mawr unbys heddiw. Dechreuodd bodau dynol ddofi ceffylau tua 4,000 CC, a chredir bod eu dofi wedi bdod yn beth cyffredin erbyn 3,000 CC. Mae ceffylau yn yr isrywogaeth caballus yn ddof, er bod rhai poblogaethau dof yn byw yn y gwyllt fel ceffylau lledwyllt (neu fferal). Nid yw'r poblogaethau lledwyllt hyn yn geffylau gwyllt go iawn, gan fod y term hwn yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio ceffylau nad ydynt erioed wedi'u dofi. Yn y Gymraeg a rhai ieithoedd eraill, ceir geirfa gyfoethog, arbenigol a ddefnyddir i ddisgrifio cysyniadau sy'n ymwneud â cheffylau, sy'n cwmpasu popeth o anatomeg i gyfnodau bywyd, maint, lliwiau, marciau, bridiau, ymsymudiad ac ymddygiad. Mae ceffylau wedi addasu i redeg, gan ganiatáu iddynt ddianc yn gyflym rhag ysglyfaethwyr neu herwr, gan feddu ar ymdeimlad rhagorol o gydbwysedd ac ymateb ymladd-neu-hedfan cryf. Yn gysylltiedig â'r angen hwn i ffoi rhag unrhyw berygl, ceir un nodwedd anarferol iawn: gall ceffylau gysgu ar eu traed a'u gorwedd, gyda cheffylau iau yn tueddu i gysgu llawer mwy nag oedolion (fel pobl!).[2] Mae ceffylau benywaidd, a elwir yn gesig (unigol: caseg), yn cario eu cywion am tua 11 mis, a gall ceffyl ifanc, a elwir ebol, sefyll a rhedeg yn fuan ar ôl ei eni. Mae'r rhan fwyaf o geffylau'n dechrau cael eu dofi gyda chyfrwy neu mewn harnais rhwng dwy a phedair oed. Maent yn cyrraedd eu llawn dwf erbyn maen nhw'n bump oed, ac mae ganddynt hyd oes cyfartalog o rhwng 25 a 30 blynyddoedd (gw. isod).

Mae bridiau ceffylau wedi'u rhannu'n fras yn dri chategori yn seiliedig ar anian gyffredinol: "gwaed poeth" gyda chyflymder a dygnwch; "gwaed oer", megis merlod, sy'n addas ar gyfer gwaith araf, trwm; a "gwaed cynnes", a grewyd drwy groesi ceffylau gwaed poeth a gwaed oer, gan ganolbwyntio'n aml ar greu bridiau at ddibenion marchogaeth penodol, yn enwedig yn Ewrop. Mae mwy na 300 brid o geffylau yn y byd heddiw, a ddatblygwyd ar gyfer llawer o wahanol ddefnyddiau, gan gynnwys cludo marchogion arfog, enw a ddaw o'r gair 'march'.

Mae ceffylau a bodau dynol yn rhyngweithio mewn amrywiaeth eang o gystadlaethau chwaraeon a gweithgareddau hamdden anghystadleuol, yn ogystal â mewn gweithgareddau fel gwaith heddlu, amaethyddiaeth, adloniant a therapi. Yn hanesyddol, defnyddiwyd ceffylau mewn rhyfela, ac o hynny datblygodd amrywiaeth eang o dechnegau marchogaeth a gyrru (ee gyrru gwartheg ar lwyfandiroedd eang), gan ddefnyddio llawer o wahanol arddulliau o offer a dulliau rheoli. Mae llawer o gynhyrchion yn deillio o geffylau, gan gynnwys cig, llaeth, croen, gwallt, asgwrn, a fferyllol a dynnir o biso cesig beichiog. Mae bodau dynol yn darparu bwyd, dŵr a lloches i geffylau dof, yn ogystal â sylw gan arbenigwyr fel milfeddygon a ffarier (milfeddyg sy'n arbenigo mewn ceffylau).

Einioes

golygu

Yn ddibynol ar y brid a'r amgylchedd, gall y ceffyl modern fyw i fod yn 25 neu'n 30 mlwydd oed. Mae eithriadau prin yn byw am 40 mlynedd neu ragor.[3] Cofnodwyd fod ceffyl o'r enw "Old Billy" yn y 19g wedi byw am 62 o flynyddoedd[4] a chredir fod 'Sugar Puff' wedi byw am 56.[5]

Hanes y ceffyl

golygu

Mae’n debyg i geffylau gael eu dofi gynta tua 3,500 – 4,000CC ar stepdiroedd eang gorllewin Asia - yn yr ardal sy’n cyfateb heddiw i’r Wcrain. Am fod marchogi ceffylau yn rhoi cymaint o fantais i rywun – i deithio’n gyflym, ac yn enwedig i ryfela, fe ledodd yr arfer o’u defnyddio yn sydyn iawn i bob cyfeiriad – i ganolbarth Ewrop, gogledd Affrica a’r Dwyrain Canol. Tua’r un adeg roedd y Mongoliaid yn dofi’r math o geffyl gwyllt oedd i’w gael yn nwyrain Asia. Buont yn hynod effeithiol yn manteisio ar geffylau yn y Oesoedd Canol pan sefydlon nhw, dan Genghis Khan, ymerodraeth anferth yn ymestyn o Hwngari i Corea.

Erbyn tua 2,000CC ceir lluniau o Mesopotamia, Rwsia a sawl lle arall o geffylau yn tynnu cerbydau rhyfel dwy olwyn i ryfela. Yn y Beibl mae Llyfr Samiwel yn son am fintai’r Philistiaid o 6,000 o farchogion a marchogion Eifftaidd aeth ar ôl Moses a’r Iddewon.

Erbyn yr Oes Haearn ceid ceffylau bychain ‘Celtaidd’, rhagflaenwyr y merlod mynydd Cymreig, ac addolid Epona – duwies y ceffylau o'r hon y tarddodd y Fari Lwyd bresennol.

Mae gan stalwyn mwy o ddanedd na gaseg. Mae yna drost 75 miliwn o gefylau dros y byd. Mae gan geffyl gof gwell na elifant .Mae dannedd ceffylau yn cymryd mwy o le yn ei pen na ymennydd.

Crefydd a mytholeg

golygu

Dim rhyfedd felly, bod ceffylau yn chwara rhan bwysig iawn yng nghrefyddau a mytholeg y cyfnodau cynnar, gyda cheffylau arbennig iawn yn cael eu marchogi gan rai o’r duwiau a’r arwyr. Er enghraifft fe fyddai ceffylau gwyn adeiniog yn tynnu cerbyd Poseidon, duw môr y Groegiaid, drwy’r tonnau ac roedden nhw’n medru codi i’r awyr a hedfan drwy’r cymylau. Pegasws oedd enw prif geffyl Poseidon. Mi ydan ni'n parhau heddiw i alw trochion y tonnau yn "gesig gwynion" a "meirch y môr". Mae yna amryw o greaduriaid mytholegol ceffylaidd eraill hefyd – bob un efo’i bwerau arbenig ei hun, fel yr uncorn, a’r dynfarch – oedd yn ½ dyn a ½ ceffyl.

Roedd gan y Celtiaid dduwies geffylau, Epona oedd ei henw i’r Galiaid a Rhiannon i’r Frythoniaid. Cysylltir Rhiannon â ffrwythlondeb y cnydau ac fe’i portreadir bron bob amser yn cario basged o ffrwythau ac yn marchogi caseg wen oedd ag ebol wrth ei thraed. Gallai’r dduwies iachau pobol; er mwyn sicrhau hynny, byddai pobl yn aberthu i ffynhonnau iachusol oedd yn dwyn ei henw. Fe welwn lun mawr o gaseg wen Rhiannon wedi ei gerfio i ochor un o fryniau sialc y Downs yn Uffingdon yn ne Lloegr. Yn y cyfnod cyn-Gristnogol, am nad oedd gan y Rhufeiniaid ddim byd oedd yn cyfateb i Epona neu Rhiannon, duwies y ceffylau, fe’i mabwysiadwyd ganddyn nhw fel un o’u duwiesau eu hunnain – yr unig un o’r duwiau Celtaidd i gael eu mabwysiadu yn ddigyfnewid gan y Rhufeiniaid.

Fe barhaodd ambell adlais o Rhiannon i’n llên gwerin diweddar ni. Ydach chi’n gyfarwydd â’r hen arfer, pan welwch chi geffyl gwyn, o boeri ar lawr a d’eud: "Lwc i mi a lwc i ti a lwc i’r ceffyl gwyn?" A be am y Fari Lwyd – yn mynd o gwmpas tafarndai ar nos Ystwyll yn ei chynfas wen? A hefyd – a dyma ichi adlais o gyswllt Rhiannon â ffrwythlondeb y cnydau – pan dorrid yr ysgub ŷd ola, a’i phlethu’n hardd i ddwad a hi i’r tŷ, onid y "Gaseg Fedi" oedd hi’n cael ’i galw?

Canol Oesoedd

golygu

Fe welwn yng Nghyfraith Hywel Dda pa mor uchel oedd parch y Cymru at eu ceffylau ac mae canmoliaeth aruthrol i ambell un yn yr hen gywyddau Canol Oesol – yn enwedig pan oedd rywun eisiau menthyg stalwyn i’w gesyg. Mae cwpled Tudur Aled yn y 16g yn enhraifft:

Llygaid fel dwy ellygen
Llymion byw’n llamu’n i ben.

yn y Cyfreithiau, disgrifir y ceffyl marchogaeth, y pynfarch a'r ceffyl gwaith a dynnai gar llusg neu og. Fel arfer gwaith yr ychain oedd tynnu'r aradr a rhaid oedd aros tan y 18g i'r wedd geffylau eu disodli. Canmola Gerallt Gymro yn 1188 "geffylau Powys" â gwaed Sbaenaidd ynddynt. O'r rhain, a groeswyd â meirch Arabaidd o'r Croesgadau y disgynnodd y cob Cymreig.

Roedd ’na gryn ymwybyddiaeth o bwysigrwydd bridio gofalus o linach dda. E. e., adeg y Croesgadau fe fewnforiwyd ceffylau Arabaidd hardd i wledydd Prydain, a rhwng yr 11-16g fe ddylanwadodd y rhain yn gryf ar ddatblygiad y Cobiau a’r merlod Cymreig. Fe nododd Gerallt Gymro yn y 12g bod ceffylau o Sbaen wedi cael eu defnyddio i wella’r brîd lleol ym Mhowys.

Dan Harri'r 8fed gwaharddwyd ceffylau bychain, a thebyg mai codi'r gwaharddiad hwnnw gan Elisabeth 1af a boblogeiddiodd yr enwau Bess a Queen ar gesyg oddi ar hynny. Yn 1740 gwaharddwyd ceffylau bychain o'r caeau rasio a phan ryddhawyd un ohonynt, stalwyn o'r enw Merlin, ar fryniau Rhiwabon, enwyd ei ddisgynyddion, a'u math, yn ferlynnod, merlod, merliwn a. y. b. Bu llawer o ddatblygu ar ferlod a chobiau trwy'r 19g ar gyfer marchogaeth a thynnu cerbydau ysgafn. Roedd galw mawr hefyd am ferlod i'r pyllau glo a chobiau'n geffylau gwaith yn yr ucheldiroedd. Sefydlwyd y Llyfr Gre Cymreig yn 1901 gyda phedair adran:

A – merlod mynydd bychain;
B – merlod;
C – merlod o fath y cob;
D – cobiau, oll o bwys ac enwogrwydd rhyngwladol erbyn heddiw.

Ceffylau gwedd

golygu

Roedd y ceffyl gwedd yn eithriadol o bwysig yn hanes amaethyddiaeth y wlad – yn tarddu’n wreiddiol o’r Oesoedd Canol pan ddatblygwyd ceffylau mawr, anferth a chryf i gario marchogion arfog i ryfel efo gymaint o bwysau o arfwisg haearn nes bod angen winsh i godi’r marchog ar gefn ei geffyl. Cafwyd defnydd newydd i’r ceffylau mawrion yn y 18g. Dyma gyfnod cychwyn a thwf y Chwyldro Diwydiannol pan oedd diwydiant a masnach yn cynyddu’n aruthrol, a hefyd poblogaeth y wlad – yn enwedig y boblogaeth drefol a diwydiannol.

Gan fod angen bwydo pawb roedd angen cynhyrchu llawer iawn mwy o’r tir, ac fe arweiniodd hynny at chwyldro mewn amaethyddaeth hefyd. A dyna pryd, ymysg y torreth o newidiadau mewn dulliau amaethyddol ddigwyddodd yn sgîl hynny, y daeth y ceffyl gwedd i’r adwy i dynnu aradrau a throliau ac i wneud hynny yn llawer mwy effeithiol a chyflymach na’r ychain a oedd wedi bod wrthi ar hyd y canrifoedd cyn hynny.

Roedd y galw cynyddol am geffylau trymion i dynnu wageni strydoedd yn ysgogiad arall i amaethwyr fagu ceffylau gwedd a chwiliai porthmyn a dilars am barau neu bedwaroedd oedd yn cyd-fynd o ran maint, lliw a phatrwm ar gyfer gwahanol gwmnïau a bragdai a. y. b. I wella'r stoc llogid stalwyni pedigri o bob cwr o'r deyrnas gan Gymdeithasau Sirol i'w harddangos mewn sioeau ac yna eu gyrru ar gylchdeithiau rheolaidd i wasanaethu cesyg y fro. Allforid llawer o geffylau ifainc i ddinasoedd Lloegr ar y rheilffyrdd a gwrthgyferbynnir effaith economaidd y ceffylau'n gadael a'r arian yn dod i mewn i'r cyfnod diweddarach pan ddeuai tractorau i mewn a'r arian yn mynd allan.

Ar ddechrau'r 20g roedd dros 175,000 o geffylau gwedd yng Nghymru ac yn y 1900au roedd ’na fwy o geffylau gwedd na fuodd erioed cyn hynny – na wedyn chwaith. Roedd tua 70,000 o geffylau gwedd yng Nghymru hyd yn oed ar ddiwedd y 1930au. Gyrrwyd niferoedd mawr ohonynt i Ffrainc yn 1914–18, pan ddaethant eto'n geffylau rhyfel – i dynnu offer brwydro ayb. Buan y cwympodd eu niferoedd wedyn wrth i’r tractor ddod yn boblogaidd – doedd dim ond ryw 10,000 o geffylau gwaith ddiwedd y 1950au. Dim ond rhai ugeiniau sy’ ar ôl erbyn hyn, i’w defnyddio mewn cystadleuthau aredig a’u harddangos mewn sioeau, wedi eu trimio â rubanau lliwgar a'u rhawn wedi ei blethu.

Bridiau o Gymru

golygu

Ceir sawl brid o geffylau Cymreig, gan gynnwys y Cob Cymreig a'r Merlyn mynydd Cymreig. Yn y gorffennol, roedd y merlod hyn yn olygfa gyffredin ar fryniau Cymru, o Eryri i Frycheiniog. Erbyn heddiw ceir y canran mwyaf ohonynt yn Eryri, rhannau o ganolbarth Cymru a Bannau Brycheiniog. Amcangyfrifir fod tua 400-500 o ferlod mynydd Cymreig ar fryniau gogledd Cymry, yn Eryri yn bennaf, gyda tua eu hanner i'w cael ar y Carneddau.

Mae'r merlyn mynydd yn chwarae rhan bwysig mewn cadwraeth. Nid yw'n bwyta grug a blodau gwyllt, fel mae defaid yn wneud, ac felly mae'n cadw cynefin adar gwyllt.

 
Map yn dangos yr amrywiaeth o dermau i ddisgrifio caseg sydd ag ysfa i genhedlu.
 
Poster 'Caseg Wineu-goch wedi crwydro...'; Pentre-Mawr, Abertawe, Medi 1818.

Rasio ceffylau yng Nghymru

golygu

Mae rasio ceffylau yn dyddio o'r cyfnod Celtaidd ac yr oedd yn ddull pwysig i arddangos doniau'r meirch yn ffeiriau'r canoloesoedd. Daeth yn sbort pwysig ymysg uchelwyr y 18g ac yn gyfrwng iddynt arddangos eu cyfoeth a'u statws trwy fetio a magu ceffylau pedigri drudfawr. Roedd rasio merlod a chobiau yn boblogaidd ymysg ffermwyr a bugeiliaid Ceredigion a sonnir am Nans o'r Glyn, y ferlen gyffredin a drechodd redwyr o lawer gwell pedigri yn y 19g. Uchafbwynt Ffair Geffylau Cymreig fawr Barnet yn y 19g oedd ras geffylau'r porthmyn Cymreig. Cynhelir y "Grand National" Gymreig heddiw ar gae rasio Cas-gwent (Chepstow). Cododd rasio trotian, yn Nhregaron a mannau eraill o'r arfer o arddangos cobiau'n uchelgamu.

Daeth cystadleuthau marchogaeth yn boblogaidd mewn sioeau amaethyddol a bu cynnydd mawr ym mhoblogrwydd merlota yn hanner ola'r 20g.

Termau

golygu

Ceir cryn amrywiaeth yn yr eirfa a ddefnyddir i ddisgrifio ysfa caseg pan fo hi mewn gwres ag angen stalwyn. Yng Ngogledd Cymru dywedir ei bod yn "gofyn stalwyn" neu'n "marchio" ("marchu" mewn rhai ardaloedd). Ym Nyffryn tanat, Powys, dywedir ei bod "yn marchu" ac "ym Mrycheiniog", mae'r gaseg "yn marcha". Yng ngogledd Maldwyn, defnyddir "gofyn stalwyn/march/ceffyl", ac mae hyn yn dangos fod cryn amrywiaeth oddi fewn i un ardal fechan.

Yn yr hen Sir Fflint, dywedir fod y gaseg "eisiau stalwyn", yr un patrwm a chyda tharw – "eisiau tarw" ddywedir hefyd. Ceir "mofyn march" ym Morgannwg a de-orllewin Brycheiniog, ac maent hwythau'n cadw i'r un patrwm ac a wnant gyda tharw – "mofyn tarw" a ddywedant. Ond ceir gair anghyffredin yn ardal Aberangell, Llanbrynmair a Chaerwys ym Maldwyn: "yn wynedd", a fersiwn o'r term hwn a ddefnyddir yn ne Ceredigion a de Penfro: "yn wynen' neu 'yn wyner". Mewn un lle yng Nghwm Llynfell (Gorllewin Morgannwg) ceir amrywiad arall: "yn wynad".

Bioleg

golygu

Maint a mesur

golygu

Mae uchder ceffylau yn cael ei fesur ar bwynt uchaf y cefn, ger y gwddf.[6] Defnyddir y pwynt hwn oherwydd ei fod yn bwynt sefydlog o'r anatomeg, yn wahanol i'r pen neu'r gwddf, sy'n symud i fyny ac i lawr mewn perthynas â chorff y ceffyl.

A large brown horse is chasing a small horse in a pasture. 
Mae maint yn amrywio'n fawr ymhlith bridiau ceffylau, fel y gwelir yma gyda cheffyl maint llawn a'r merlen fach.

Mewn llawer o wledydd (gan gynnwys Cymru) mae uchder ceffylau'n aml yn cael ei nodi mewn unedau o ddwylo a modfeddi: mae un llaw yn hafal i 101.6 mm. Mynegir yr uchder fel nifer y dwylo llawn, ac yna pwynt, yna nifer y modfeddi ychwanegol, ac yn gorffen gyda'r talfyriad "h" (am hands) neu "hh" (ar gyfer "hands high"). Felly, ceffyl a ddisgrifir fel "15.2 h" yw 15 llaw a 2 fodfedd, sef ceffyl a'i gyfanswm o uchder.[7]

Y ferlen

golygu

Yn dacsonomaidd mae merlod yr un anifeiliaid â cheffylau. Mae'r gwahaniaeth rhwng ceffyl a merlen yn cael ei dynnu'n gyffredin ar sail uchder, yn enwedig at ddibenion cystadleuaeth. Gall y gwahaniaeth rhwng ceffylau a merlod hefyd gynnwys agweddau ar ffenoteip, gan gynnwys cydffurfiad ac anian.

Mae merlod yn aml yn arddangos mwng, cynffonnau a chôt mwy trwchus. Mae ganddyn nhw hefyd goesau byrrach, asgwrn trymach, gyddfau byrrach a mwy trwchus, a phennau byr gyda thalcenau llydan. Efallai bod ganddyn nhw dymer dawelach na cheffylau a hefyd lefel uchel o ddeallusrwydd y gellir neu na ellir ei ddefnyddio i gydweithredu â phobl.[8] Nid yw maint, ynddo'i hun, yn ddigon i wahaniaethu, felly, rhwng ceffyl a merlen. Er enghraifft, mae merlen Shetland sy'n 10 llaw ar gyfartaledd, yn cael ei ystyried yn ferlen.[8] Ar y llaw arall, mae bridiau bychan fel y Falabella a cheffylau bach eraill, (llai na 30 modfedd (76 cm), yn cael eu dosbarthu gan eu cofrestrfeydd fel ceffylau bach iawn, nid merlod.[9]

Geneteg

golygu

Mae gan geffylau 64 cromosom.[10] Cafodd genom y ceffyl ei ddilyniannu yn 2007 ac mae'n cynnwys 2.7 biliwn o barau o DNA,[11] sy'n fwy na genom y ci, ond yn llai na'r genom dynol neu'r genom y fuwch.[12] Erbyn hyn, ceir map o'r cromosomau ar gael i wyddonwyr.[13]

Lliwiau a marciau

golygu
Two horses in a field. The one on the left is a dark brown with a black mane and tail. The one on the right is a light red all over. 
Yn y llun gweir dau o'r lliwiau mwyaf cyffredin

Fel y ci, mae ceffylau'n amrywio'n fawr o ran lliw a marciau ar eu cotiau. Yn aml, mae ceffyl yn cael ei ddosbarthu'n gyntaf yn ôl lliw ei gôt, cyn y brid neu ei ryw.[14] Gellir gwahaniaethu rhwng ceffylau o'r un lliw â'i gilydd gan farciau gwyn,[15] sydd, ynghyd â phatrymau o smotiau amrywiol, yn cael eu hetifeddu ar wahân i liw'r cot.[16]

Mae llawer o enynau sy'n creu lliwiau a phatrymau cotiau ceffyl wedi'u hadnabod. Gall profion genetig cyfredol nodi o leiaf 13 o alel gwahanol sy'n dylanwadu ar liw'r blew,[17] ac mae ymchwil yn parhau i ddarganfod genynnau newydd sy'n gysylltiedig â nodweddion penodol eraill. Y lliw sylfaenol yw gwinau neu goch (brown erbyn heddiw) a du yn cael eu pennu gan y genyn a reolir gan y derbynnydd Melanocortin 1, [18] a elwir hefyd yn "enyn ymestyn" neu "ffactor coch,"[17] gan mai ei ffurf enciliol yw "coch" ("castanwydden" mewn rhai ieithoedd) a du yw ei ffurf amlycaf.[19] Mae genynnau ychwanegol yn atal y lliw du sy'n arwain at liw gwingoch (gwinau), a phatrymau fel pinto neu effaith llewpad, neu palomino a llwyd, a'r holl ffactorau eraill sy'n creu'r llu o liwiau cot posibl a geir mewn ceffylau.[17]

Atgynhyrchu a datblygu

golygu
 
Caseg ag ebol

Mae beichiogrwydd yn para tua 340 diwrnod, gydag ystod gyfartalog o 320-370 diwrnod,[20] ac fel arfer yn arwain at un ebol; mae efeilliaid yn brin.[21] Gall ebolion sefyll a rhedeg o fewn amser byr ar ôl eu geni.[22] Fel arfer cant eu geni yn y gwanwyn. Mae cylch estrous y gaseg yn digwydd bob 19-22 diwrnod yn fras ac yn digwydd o ddechrau'r gwanwyn i'r hydref. Mae'r rhan fwyaf o gesig yn mynd i mewn i gyfnod anestrus yn ystod y gaeaf ac felly nid ydynt yn beichiogi yn y cyfnod oeraf o'r flwyddyn.[23] Yn gyffredinol, mae ebolion yn cael eu diddyfnu oddi wrth eu mamau pan maen nhw rhwng pedwar a chwe mis oed.[24]

Gall eboles atgynhyrchu pan mae tua 18 mis oed, ond anaml y caniateir i geffylau dof fridio cyn eu bod yn dair oed, yn enwedig y benywod.[25] Ystyrir bod ceffylau pedair oed yn aeddfed, er bod y sgerbwd fel arfer yn parhau i ddatblygu hyd at chwech oed. Mae aeddfedu hefyd yn dibynnu ar faint y ceffyl, brid, rhyw, ac ansawdd y gofal. Mae esgyrn ceffyl yn cymryd tipyn o amser i ffurfio meinwe esgyrn, ond mae'r platiau ardyfiannol yn fwy ac yn cymryd mwy o amser i'w trosi o gartilag i asgwrn, ac mae hyn yn digwydd ar ôl rhannau eraill o'r esgyrn, ac maent yn hanfodol i ddatblygiad.[26]

Yn dibynnu ar aeddfedrwydd, brid, a'r gwaith a ddisgwylir, mae ceffylau fel arfer yn cael eu rhoi cyfrwyo a'u hyfforddi ar gyfer marchogaeth rhwng dwy a phedair oed.[27] Er bod ceffylau rasio bridiau pur yn cael eu rhoi ar y trac mor ifanc â dwy oed mewn rhai gwledydd, [28] yn gyffredinol nid yw ceffylau sy'n cael eu bridio'n benodol ar gyfer dressage ayb yn cael eu cyfrwyo nes eu bod yn dair neu'n bedair oed, gan nad yw'r cyhyrau wedi'u datblygu'n llawn.[29] Ar gyfer cystadleuaeth marchogaeth dygnwch (endurance), nid yw ceffylau'n cael eu hystyried yn ddigon aeddfed i gystadlu nes eu bod yn 60 mis oed (pum mlynedd).[30]

Rhyngweithio â bodau dynol

golygu
 
Trol a cheffyl, gyda'r ceffyl yn tynnu wagen drom

Ledled y byd, mae ceffylau yn chwarae rhan o fewn diwylliannau dynol ac wedi gwneud hynny ers milenia. Defnyddir ceffylau ar gyfer gweithgareddau hamdden, chwaraeon a gwaith. Mae'r Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth (FAO) yn amcangyfrif bod bron i 59,000,000 o geffylau yn y byd yn 2008, gyda thua 33,500,000 yn America, 13,800,000 yn Asia a 6,300,000 yn Ewrop a dognau llai yn Affrica ac Oceania. Amcangyfrifir bod 9,500,000 o geffylau yn yr Unol Daleithiau yn unig.[31] Mae Cyngor Ceffylau America yn amcangyfrif bod gweithgareddau sy'n ymwneud â cheffylau yn cyfrannu dros $39 biliwn i economi'r wlad, a phan ystyrir gwariant anuniongyrchol, mae'r effaith dros $102 biliwn.[32] Mewn “pôl” yn 2004 a gynhaliwyd gan Animal Planet, pleidleisiodd mwy na 50,000 o wylwyr o 73 o wledydd dros y ceffyl fel 4ydd hoff anifail y byd.[33]

Mae cyfathrebu rhwng dyn a cheffyl yn hollbwysig tra'n marchogaeth;[34] i gynorthwyo'r broses hon mae ceffylau fel arfer yn cael eu marchogaeth gyda chyfrwy ar eu cefnau i gynorthwyo'r marchog gyda chydbwysedd, lleoli, a ffrwyn i gadw rheolaeth.[35] Weithiau bydd ceffylau'n cael eu marchogaeth heb gyfrwy.[36] Mae llawer o geffylau hefyd yn tynnu cert, trol, aradr, a cheir tinbren arbennig ar gyfer hynny.[37]

Gwaith

golygu

Gall y ceffyl wneud ambell waith yn well nac unrhyw anifail neu beiriant, ac nid oes unrhyw dechnoleg wedi datblygu eto i'w disodli'n llawn. Er enghraifft, mae ceffylau heddlu ar fownt yn dal yn effeithiol ar gyfer rhai mathau o ddyletswyddau patrôl a rheoli twr o bobl.[38] Mae angen marchogion ar gefn ceffyl o hyd ar ffermydd gwartheg i fugeilio gwartheg sydd wedi'u gwasgaru ar draws tiroedd anghysbell, garw.[39][40] Gellir defnyddio ceffylau hefyd mewn ardaloedd lle mae angen osgoi tarfu gan gerbydau ar briddoedd neu amgylchedd cadwriaethol, megis gwarchodfeydd natur.

Mae ceffylau'n dawelach na cherbydau modur. Mae'r fideo uchod, gan Gyfoeth Naturiol Cymru, yn dangos enghraifft o hynm ble ceir ceffylau rhwng coedydd pin, yn clirio ac yn tynnu coed wedi eu torri. Fe'u defnyddir hefyd i glirio llwybrau neu waith arall ar dir garw lle mae cerbydau’n llai effeithiol.[41] Hyd heddiw (2022), defnyddir mulod mewn trefi glan glan môr fel y Barri neu Rhyl i fynd a phlant bach am dro ar y tywod.

Rhyfela

golygu
Black-and-white photo of mounted soldiers with middle eastern headwraps, carrying rifles, walking down a road away from the camera 
Ffotograff o farchfilwyr Otomanaidd a dynnwyd yn 1917

Mae ceffylau wedi cael eu defnyddio mewn rhyfela am y rhan fwyaf o'r hanes a gofnodwyd. Ceir y dystiolaeth archeolegol gyntaf o geffylau rhyfel yn dyddio i rhwng 4,000 a 3,000 CC,[42] ac roedd y defnydd o geffylau mewn rhyfela yn gyffredin erbyn diwedd yr Oes Efydd.[43][44]

Defnyddiodd Celtiaid ynysoedd Prydain y ceffyl i ymladd yn erbyn goresgynwyr tramor fel y sacsoniaid, y Jiwtiaid a'r Daniaid. Ganrifoedd cyn hynny trigai brenhines arwrol llwyth Celtaidd yr Iceni, a flodeuai yn y ganrif gyntaf yn y fan a elwir heddiw yn dde-ddwyrain Lloegr, oedd Buddug (hefyd Boudica, Boudicca neu Boadicea). Ceir cofnod Rhufeinig iddi ymladd yn erbyn y Rhufeiniaid ar gerbyd rhyfel (chariot), a dynwyd gan geffylau rhyfel.

Er bod mecaneiddio wedi disodli’r ceffyl i raddau helaeth fel arf rhyfel yn nechrau'r 20g, defnyddir ceffylau hyd heddiw mewn seremonïau. Defnyddiwyd ceffylau yn yr 21ain ganrif gan y milisia Janjaweed yn y Rhyfel yn Darfur.[45]

Y prif ffynhonnell o faetholion i geffylau yw glaswellt o ansawdd da: gwair neu borfa.[46] Gallant fwyta tua 2% i 2.5% o bwysau eu corff mewn porthiant sych bob dydd. Felly, gall ceffyl 450 cilogram llawndwf fwyta hyd at 11 cilogram o fwyd.[47] Weithiau, mae porthiant crynodedig fel grawn yn cael ei fwydo yn ychwanegol at borfa neu wair, yn enwedig pan fo'r anifail yn actif iawn neu'n feichiog, ac angen mwynau ychwanegol.[48] Pan fydd grawn yn cael ei fwydo, mae maethegwyr ceffylau yn argymell y dylai 50% neu fwy o ddeiet yr anifail yn ôl pwysau barhau i fod yn wair neu'n wellt.[49]

Mae angen cyflenwad digonol o ddŵr glân ar geffylau, o leiaf 10-12 galwyn (US) y dydd.[50] Er bod ceffylau wedi addasu i fyw yn yr awyr agored, mae angen lloches arnynt rhag y gwynt a dyodiad, a all amrywio o sied neu loches syml i stabl bwrpasol.[51]

Llyfryddiaeth

golygu
  • Belknap, Maria (2004). Horsewords: The Equine Dictionary (arg. Second). North Pomfret, VT: Trafalgar Square Publishing. ISBN 978-1-57076-274-1.
  • Bongianni, Maurizio (1987). Simon & Schuster's Guide to Horses and Ponies. New York: Fireside. ISBN 978-0-671-66068-0.
  • Dohner, Janet Vorwald (2001). "Equines: Natural History". In Dohner, Janet Vorwald (gol.). Historic and Endangered Livestock and Poultry Breeds. Topeka, KS: Yale University Press. tt. 400–401. ISBN 978-0-300-08880-9.
  • Edwards, Elwyn Hartley (1994). The Encyclopedia of the Horse. London: Dorling Kindersley. ISBN 978-1-56458-614-8. OCLC 29670649.
  • Ensminger, M. E. (1990). Horses and Horsemanship: Animal Agricultural Series (arg. Sixth). Danville, IN: Interstate Publishers. ISBN 978-0-8134-2883-3. OCLC 21977751.
  • Giffin, James M.; Tom Gore (1998). Horse Owner's Veterinary Handbook (arg. Second). New York: Howell Book House. ISBN 978-0-87605-606-6. OCLC 37245445.
  • Harris, Susan E. (1993). Horse Gaits, Balance and Movement. New York: Howell Book House. ISBN 978-0-87605-955-5. OCLC 25873158.
  • McBane, Susan (1997). The Illustrated Encyclopedia of Horse Breeds. Edison, NJ: Wellfleet Press. ISBN 978-0-7858-0604-2. OCLC 244110821.
  • Miller, Robert M. (1999). Understanding the Ancient Secrets of the Horse's Mind. Neenah, WI: Russell Meerdink Company Ltd. ISBN 978-0-929346-65-6. OCLC 42389612.
  • Price, Steven D.; Spector, David L.; Rentsch, Gail; Burn, Barbara B., gol. (1998). The Whole Horse Catalog: Revised and Updated (arg. Revised). New York: Fireside. ISBN 978-0-684-83995-0.
  • Sponenberg, D. Phillip (1996). "The Proliferation of Horse Breeds". Horses Through Time (arg. First). Boulder, CO: Roberts Rinehart Publishers. ISBN 978-1-57098-060-2. OCLC 36179575.
  • Whitaker, Julie; Whitelaw, Ian (2007). The Horse: A Miscellany of Equine Knowledge. New York: St. Martin's Press. ISBN 978-0-312-37108-1.

Ceffylau lledwyllt

golygu
  • Merlod y Carneddau

Gre o geffylau wedi eu lleoli yn bennaf ar Gwm Llafar a Chwm Caseg.

  • Merlod Crawcwellt Trawsfynydd

Tyddyn Du, Tyddyn Mawr ac Adwy Deg oedd yn bridio rhain ar y Crawcwellt ger Trawsfynydd cyn belled yn ôl a’r ’40au o leiaf, fel merlod pyllau glo. Roedd y borfa a’r tir uchel yn cyfrannu at eu maint bychan ac yn eu gwneud yn ddelfrydol i’r pyllau. Byddent yn eu hel unwaith y flwyddyn i’w didoli er mwyn gwerthu a hynny trwy ddefnyddio Pont y Grible a’i chanllawiau fel corlan i’r pwrpas - ni fu i’r un ohonynt neidio dros y bont! Mae’n debyg mai mecaneiddio a dirywiad y diwydiant glo ddaeth a’r angen i ben ac iddynt wedyn fynd yn wyllt (fferal) dros amser gan nad oedd marchnad iddynt. Mae'n bryder gan rai fod nifer fawr ar gyfartaledd o stalwyni yn y gre.[52]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. International Commission on Zoological Nomenclature, 2003,Usage of 17 specific names based on wild species which are pre-dated by or contemporary with those based on domestic animals (Lepidoptera, Osteichthyes, Mammalia): conserved. [1]
  2. "Do You Know How Horses Sleep?". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-01-22. Cyrchwyd 12 September 2018.
  3. Wright, B. (March 29, 1999). "The Age of a Horse". Ministry of Agriculture, Food and Rural Affairs. Government of Ontario. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-01-20. Cyrchwyd 2009-10-21.
  4. Ensminger, tud. 46–50
  5. Ryder, Erin. "World's Oldest Living Pony Dies at 56". The Horse. Cyrchwyd 2007-05-31.
  6. Whitaker, p. 77
  7. Ensminger, p. 51
  8. 8.0 8.1 Ensminger, M.E. (1991). Horses and Tack (arg. Revised). Boston, MA: Houghton Mifflin Company. tt. 11–12. ISBN 978-0-395-54413-6. OCLC 21561287.
  9. McBane, p. 200
  10. "Chromosome Numbers in Different Species". Vivo.colostate.edu. 1998-01-30. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-11. Cyrchwyd 2013-04-17.
  11. "Sequenced horse genome expands understanding of equine, human diseases". Cornell University College of Veterinary Medicine. 2012-08-21. Cyrchwyd 2013-04-01.
  12. Wade, C. M; Giulotto, E; Sigurdsson, S; Zoli, M; Gnerre, S; Imsland, F; Lear, T. L; Adelson, D. L et al. (2009-11-05). "Domestic Horse Genome Sequenced". Science 326 (5954): 865–867. Bibcode 2009Sci...326..865W. doi:10.1126/science.1178158. PMC 3785132. PMID 19892987. https://www.sciencedaily.com/releases/2009/11/091105143708.htm. Adalwyd 2013-04-01.
  13. "Ensembl genome browser 71: Equus caballus – Description". Uswest.ensembl.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-10. Cyrchwyd 2013-04-17.
  14. Vogel, Colin B.V.M (1995). The Complete Horse Care Manual. New York: Dorling Kindersley Publishing, Inc. t. 14. ISBN 978-0-7894-0170-0. OCLC 32168476.
  15. Mills, Bruce; Barbara Carne (1988). A Basic Guide to Horse Care and Management. New York: Howell Book House. tt. 72–73. ISBN 978-0-87605-871-8. OCLC 17507227.
  16. Corum, Stephanie J. (May 1, 2003). "A Horse of a Different Color". The Horse. http://www.thehorse.com/ViewArticle.aspx?ID=4354. Adalwyd 2010-02-11.
  17. 17.0 17.1 17.2 "Horse Coat Color Tests". Veterinary Genetics Laboratory. University of California. Cyrchwyd 2008-05-01.
  18. Marklund, L.; M. Johansson Moller; K. Sandberg; L. Andersson (1996). "A missense mutation in the gene for melanocyte-stimulating hormone receptor (MC1R) is associated with the chestnut coat color in horses". Mammalian Genome 7 (12): 895–899. doi:10.1007/s003359900264. PMID 8995760.
  19. "Introduction to Coat Color Genetics". Veterinary Genetics Laboratory. University of California. Cyrchwyd 2008-05-01.
  20. Ensminger, p. 156
  21. Johnson, Tom. "Rare Twin Foals Born at Vet Hospital: Twin Birth Occurrences Number One in Ten Thousand". Communications Services, Oklahoma State University. Oklahoma State University. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-12. Cyrchwyd 2008-09-23.
  22. Miller, Robert M.; Rick Lamb (2005). Revolution in Horsemanship and What it Means to Mankind. Guilford, CT: Lyons Press. tt. 102–103. ISBN 978-1-59228-387-3. OCLC 57005594.
  23. Ensminger, p. 150
  24. Kline, Kevin H. (2010-10-07). "Reducing weaning stress in foals". Montana State University eXtension. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-22. Cyrchwyd 2012-04-03.
  25. Ensminger, M.E. (1991). Horses and Tack (arg. Revised). Boston: Houghton Mifflin Company. t. 129. ISBN 978-0-395-54413-6. OCLC 21561287.
  26. McIlwraith, C.W. "Developmental Orthopaedic Disease: Problems of Limbs in young Horses". Orthopaedic Research Center. Colorado State University. Cyrchwyd 2008-04-20.
  27. Thomas, Heather Smith (2003). Storey's Guide to Training Horses: Ground Work, Driving, Riding. North Adams, MA: Storey Publishing. t. 163. ISBN 978-1-58017-467-1.
  28. "2-Year-Old Racing (US and Canada)". Online Fact Book. Jockey Club. Cyrchwyd 2008-04-28.
  29. Bryant, Jennifer Olson; George Williams (2006). The USDF Guide to Dressage. Storey Publishing. tt. 271–272. ISBN 978-1-58017-529-6.
  30. "Equine Age Requirements for AERC Rides". American Endurance Riding Conference. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-08-11. Cyrchwyd 2011-07-25.
  31. "FAO Stat – Live Animals". Food and Agriculture Organization. December 16, 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-01-19. Cyrchwyd 2010-02-05.
  32. "Most Comprehensive Horse Study Ever Reveals A Nearly $40 Billion Impact On The U.S. Economy" (Press release). American Horse Council. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2006-06-25. https://web.archive.org/web/20060625083812/http://www.cthorsecouncil.org/AHC2005JuneEconStudy.pdf. Adalwyd 2005-06-20.
  33. "Tiger tops dog as world's favourite animal". Independent Online. Independent. Cyrchwyd 2011-06-01.
  34. Olsen, Sandra L. (1996). "In the Winner's Circle: The History of Equestrian Sports". Horses Through Time (arg. First). Boulder, CO: Roberts Rinehart Publishers. tt. 105, 111–113, 121. ISBN 978-1-57098-060-2. OCLC 36179575.
  35. Edwards, Elwyn Hartley (2002). Horses (arg. Second American). New York: Dorling Kindersley. tt. 32–34. ISBN 978-0-7894-8982-1. OCLC 50798049.
  36. Self, Margaret Cabell (2005). Riding Simplified. Kessinger Publishing. t. 55. ISBN 978-1-4191-0087-1.[dolen farw]
  37. Mettler, John J Jr. (1989). Horse Sense: A Complete Guide to Horse Selection and Care. Pownal, VT: Storey Communications, Inc. tt. 47–54. ISBN 978-0-88266-549-8. OCLC 19324181.
  38. "Horse Mounted Unit". United States Park Police. National Park Service. Archifwyd o'r gwreiddiol ar February 18, 2008. Cyrchwyd 2008-04-07.
  39. Edwards, pp. 226–227
  40. "Volunteer Mounted Search and Rescue Unit". Employment. San Benito County Sheriff's Office. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-09. Cyrchwyd 2008-07-08.
  41. US Forest Service (May 2003). "Mules Key in Accomplishing Trail Work". Success Stories. US Department of Agriculture. t. 4. |access-date= requires |url= (help)
  42. Newby, Jonica; Diamond, Jared; Anthony, David (1999-11-13). "The Horse in History". The Science Show. Radio National. Cyrchwyd 2012-01-04.
  43. Anthony, David W.; Dorcas R. Brown. "The Earliest Horseback Riding and its Relation to Chariotry and Warfare". Harnessing Horsepower. Institute for Ancient Equestrian Studies. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-10. Cyrchwyd 2007-10-09.
  44. Whitaker, pp. 30–31
  45. Lacey, Marc (2004-05-04). "In Sudan, Militiamen on Horses Uproot a Million". The New York Times. Cyrchwyd 2011-01-04.
  46. Kellon, Eleanor (2008). "Focus on Feed Costs". Horse Journal 16 (6): 11–12.
  47. Hall, Marvin H.; Patricia M. Comerford (1992). "Pasture and Hay for Horses – Agronomy Facts 32" (PDF). Cooperative Extension Service. University of Pennsylvania. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2012-12-24. Cyrchwyd 2007-02-14.
  48. Giffin, pp. 476–477
  49. "Feeding Factors". Horse Nutrition. Ohio State University. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-07-08. Cyrchwyd 2007-02-09.
  50. Giffin, p. 455
  51. Giffin, p. 482
  52. Keith O'Brien, Bwletin Llên Natur rhif 19
  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i Twm Elias ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan Defnyddiwr:Twm Elias. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn Amryw o lefydd (Nifer o weisg).


Chwiliwch am ceffyl
yn Wiciadur.