Brynley F. Roberts
Ysgolhaig a beirniad llenyddol o Gymru oedd Dr Brynley F. Roberts (3 Chwefror 1931 – 14 Awst 2023).[1][2] Roedd wedi ysgrifennu'n helaeth am hanes yr iaith Gymraeg a hanes Cheltaidd a fe oedd un o'r awdurdodau pennaf ar y naturiaethwr Edward Lhuyd.
Brynley F. Roberts | |
---|---|
Ganwyd | 3 Chwefror 1931 Aberdâr |
Bu farw | 14 Awst 2023 Aberystwyth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Addysg | Uwch Ddoethor |
Galwedigaeth | beirniad llenyddol, llyfrgellydd, ymchwilydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | CBE, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru |
Gyrfa
golyguBu'n Athro'r Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe ac yn Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru rhwng 1985 ac 1998.[3] Roedd yn un o olygyddion Y Bywgraffiadur Cymreig a bu'n olygydd Y Traethodydd.
Roedd yn aelod o Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion a Chymdeithas Ddysgedig Cymru, yn ogystal â bod rhan flaenllaw yng ngweithgareddau Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Roedd hefyd yn flaenor yng Nghapel y Morfa, Aberystwyth.[4]
Bywyd personol
golyguRoedd yn briod a Rhiannon ac roedd ganddynt ddau o blant, Rolant a Maredudd.
Marwolaeth a theyrngedau
golyguBu farw yn 92 mlwydd oed, yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.[2] Talwyd teyrngedau iddo gan lawer. Dywedodd yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, ei fod yn "un o gymwynaswyr mawr" y sefydliad, ble bu hefyd yn un o'i Gymrodyr Hŷn.
Dywedodd Yr Athro Helen Fulton, is-lywydd y Dyniaethau, Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol gyda Chymdeithas Ddysgedig Cymru, fod Brynley Roberts "yn un o gewri astudiaethau Celtaidd yn ail hanner yr 20fed Ganrif". "Fe gofir amdano fel awdur toreithiog a golygydd craff," meddai. "Yr oedd yn gyfaill i lawer yn y maes ac yn barod bob amser i estyn cymorth i ysgolheigion ifainc. "Roedd yn aelod cynnar o'r Gymdeithas Ddysgedig ac fe deimlwn ei golli."
Ychwanegodd cyn-Ddirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Gwerfyl Pierce Jones: "Mae'n drist nodi marwolaeth yr Athro Brynley F Roberts ar ôl cystudd hir... Roedd Bryn yn ysgolhaig o fri, yn gyn-Lyfrgellydd Cenedlaethol, ac yn flaenor ac athro ysgol Sul mawr ei barch yng Nghapel y Morfa, Aberystwyth."[1]
Llyfryddiaeth
golyguLlyfryddiaeth lawn hyd at 1997: Huw Walters, "Llyfryddiaeth Dr Brynley F. Roberts", yn Ysgrifau Beirniadol, XXII, gol. J. E. Caerwyn Williams (Dinbych: Gwasg Gee, 1997), tt.22–40
Awdur
golygu- Edward Lhuyd, the Making of a Scientist, G.J. Williams Memorial Lecture (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1980)
- Brut Tysilio: darlith agoriadol gan Athro y Gymraeg a'i Llenyddiaeth (Abertawe: Coleg Prifysgol Abertawe, 1980)
- Gerald of Wales, Writers of Wales (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1982)
- Studies on Middle Welsh Literature (Lewiston, NY: Edwin Mellen Press, (1992)
- Cyfannu'r rhwyg: Hanes Eglwys Salem Aberystwyth 1893-1988 (Aberystwyth: Capel y Morfa, 1995)
- Cadrawd: Arloeswr Llên Gwerin, Darlith Goffa Henry Lewis (Abertawe: Prifysgol Cymru, 1997)
Golygydd
golygu- Gwassanaeth Meir (Gwasg Prifysgol Cymru, 1961)
- Brut Y Brenhinedd: Llanstephan MS 1 Version (Mediaeval & Modern Welsh) (Dublin Institute for Advanced Studies, 1971)
- Cyfranc Lludd a Llefelys (Mediaeval & Modern Welsh) (Dublin Institute for Advanced Studies, 1975)
- Early Welsh Poetry: Studies in the Book of Aneirin (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1988)
- The Arthur of the Welsh: Arthurian Legend in Mediaeval Welsh Literature, gol. gyda Rachel Bromwich ac A.O.H. Jarman (Gwasg Prifysgol Cymru, 1993; argraffiad newydd 1995)
- Beirdd a Thywysogion: Barddoniaeth Llys yng Nghymru, Iwerddon a'r Alban, gol. gyda Morfydd E. Owen (Gwasg Prifysgol Cymru, 1996)
- Moelwyn: Bardd Y Ddinas Gadarn (Gwasg Pantycelyn, 1996)
- The Dictionary of Welsh Biography 1941-1970,(gol. gyda R.T. Jenkins ac E.D. Jones (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 2001)
- Edward Lhuyd, Archaeologia Britannica: Texts and Translations, gol. gyda D. Wyn Evans (Celtic Studies Publicationns, 2007)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Teyrngedau i'r ysgolhaig a'r cyn-lyfrgellydd Athro Brynley Roberts". BBC Cymru Fyw. 2023-08-16. Cyrchwyd 2023-08-16.
- ↑ 2.0 2.1 "Teyrnged i'r Athro Brynley F. Roberts: "doeth, hynaws a chymwynasgar"". Golwg360. 2023-08-21. Cyrchwyd 2023-08-21.
- ↑ "Brynley F. Roberts", Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion; adalwyd 28 Medi 2022
- ↑ Swyddogion y Capel.