[go: up one dir, main page]
More Web Proxy on the site http://driver.im/

Ar Log

band Cymraeg
(Ailgyfeiriad o Ar Lôg)

Grŵp cerddoriaeth gwerin o Gymru yw Ar Log.

Goreuon Ar Log, clawr albwm
Goreuon Ar Log, clawr albwm

Sefydlwyd y grŵp yn 1976, gyda Dave Burns (gitar), Dafydd Roberts (telyn deires, ffliwt), Gwyndaf Roberts (telyn ben glin a gitar bâs) a Iolo Jones (ffidil). Daethpwyd a hwy at ei gilydd gan Fwrdd Twristiaeth Cymru, oedd yn awyddus i gael grŵp yn perfformio cerddoriaeth werin draddodiadol Cymru yn Ngŵyl Ryng-Geltaidd Lorient y flwyddyn honno. Yno, daethant i gysylltiad a'r grŵp Gwyddelig The Dubliners, a awgrymodd y dylent aros gyda'i gilydd a throi'n broffesiynol.

Mae'r bobl sy'n rhan o'r grŵp wedi newid sawl gwaith dros y blynyddoedd. Yn y 1980au roedd ganddynt gysylltiad agos a Dafydd Iwan, a buont ar ddwy daith gydag ef yn 1982 a 1983. Roedd y gyntaf, Taith 700, yn nodi 700 mlwyddiant marwolaeth Llywelyn ap Gruffudd yn 1282.

Gweler hefyd

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato