Afon Oder
Afon yng nghanolbarth Ewrop yw afon Oder (Tsieceg a Pwyleg: Odra). Mae'n 854.3 km o hyd, ac yn llifo trwy rannau o'r Weriniaeth Tsiec, Gwlad Pwyl a'r Almaen i gyrraedd y Môr Baltig.
Math | afon, y brif ffrwd |
---|---|
Cysylltir gyda | Q124728109 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Brandenburg, Opole Voivodeship, Lower Silesian Voivodeship, Silesian Voivodeship, Lubusz Voivodeship, West Pomeranian Voivodeship, Olomouc Region, Moravian-Silesian Region |
Gwlad | Gwlad Pwyl, Tsiecia, yr Almaen |
Cyfesurynnau | 49.6133°N 17.5208°E, 53.6017°N 14.5897°E |
Tarddiad | Q110016523 |
Aber | Y Môr Baltig, Szczecin Lagoon |
Llednentydd | Psina, Osobłoga, Oława, Kaczawa, Bóbr, Afon Neisse, Welse, Warta, Lubina, Widawa, Cicha Woda, Ilanka, Pliszka, Barycz, Jezierzyca, Zimnica, Nysa Kłodzka, Stradunia, Camlas Kłodnica, Ślęza, Opava, Łarpia, Bystrzyca, Olza, Ostravice, Mała Panew, Gunica, Ina, Kłodnica, Gowienica, Gręziniec, Tywa, Wietlina, Babina, Bukowa, Rurzyca, Słubia, Iński Nurt, Kurowski Canal, Leśny, Krępa, Myśla, Parnica, Przekop Mieleński, Regalica, Luha, Bečva, Střelenský, Camlas Oder–Spree, Stobrawa, Mastnický potok, Liščí potok, Černý příkop, Něčínský potok, Podleský potok, Tichý potok, Oldřůvka, Smolenský potok, Zábřežka, Q61911414, Klingefließ, Q55837732, Biała Woda, Cisek, Q55837721, Q55837717, Suchá, Prószkowski Potok, Ołobok, Krzycki Rów, Afon Bílovka, Jičínka, Średzka Woda, Strumień, Smortawa, Q9197904, Biela, Śląska Ochla, Policki Nurt, Gryżynka, Porubka, Ondřejnice, Obrzyca, Młynówka in Opole, Kurzyca, Ruda, Lazský potok, Libavský potok, Bierawka |
Dalgylch | 125,000 cilometr sgwâr, 118,900 cilometr sgwâr, 106,056 cilometr sgwâr |
Hyd | 854 cilometr, 742 cilometr |
Arllwysiad | 480 metr ciwbic yr eiliad |
Ceir tarddiad yr afon yn y Sudeten, i'r dwyrain o ddinas Olomouc yn rhanbarth Morafia o'r Weriniaeth Tsiec. Mae'n llifo heibio dinas Ostrava i Wlad Pwyl, lle mae'n llifo trwy Silesia. Wedi i afon Neisse (Pwyleg: Nysa) ynuno a hi, mae'r afon yn ffurfio'r ffin rhwng Gwlad Pwyl a'r Almaen am 162 km. Am y 59 km olaf o'i chwrs, mae'r Oder yn dychwelyd i fod o fewn Gwlad Pwyl. Gerllaw dinas Szczecin mae'n llifo i mewn i'r Oderhaf, sy'n arwain i'r môr.
Mae Szczecin, ar lan chwith yr Oderhaf, yn borthladd pwysig. Mae Wrocław hefyd yn borthladd o bwys. Dinasoedd pwysig eraill ar hyd yr Oder yw Ostrava (Gweriniaeth Tsiec), Opole a Racibórz (Gwlad Pwyl) a Frankfurt an der Oder (yr Almaen). Y fwyaf o'r afonydd sy'n llifo i'r Oder yw afon Warta.