Ullapool
Math | pentref |
---|---|
Poblogaeth | 1,541, 1,520 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Cyngor yr Ucheldir |
Gwlad | Yr Alban |
Gerllaw | Ullapool River, Loch Broom |
Cyfesurynnau | 57.897288°N 5.161394°W |
Cod SYG | S20000284, S19000313 |
Cod OS | NH125945 |
Cod post | IV |
Tref fechan yn Ross a Cromarty, yn Ucheldiroedd yr Alban, yw Ullapool (Gaeleg yr Alban: Ullapul neu Ulapul). Mae ganddi boblogaeth o 1,307, ond serch hynny Ullapool yw'r dref fwyaf mewn ardal eang o ogledd-orllewin yr Alban.
Sefydlwyd Ullapool yn 1788 fel porthladd pysgota penwaig, wedi'i chynllunio gan Thomas Telford, ar lan dwyreiniol Loch Broom. Mae'r harbwr yn cael ei defnyddio gan gychod pysgota a chychod hwylio ac yn borth fferi ar gyfer teithiau i Stornoway ar Leòdhas yn Ynysoedd Heledd. Yn ogystal mae gan y dref amgueddfa fach, canolfan celf, pwll nofio a thafarndai, ac mae'n boblogaidd gan gerddwyr ac ymwelwyr eraill. Mae'r traddodiad cerddorol yn gryf yn Ullapool.
Mae gorsaf radio leol Loch Broom FM ar 102.2 MHz yn gwasanethu'r dref.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- Bwrdd Croeso Ullapool Archifwyd 2006-08-20 yn y Peiriant Wayback