The Apprentice (cyfres deledu'r DU)
Gwedd
The Apprentice | |
---|---|
Delwedd o agoriad y rhaglen. | |
Genre | Cyfres deledu realiti |
Crëwyd gan | Mark Burnett |
Serennu | Syr Alan Sugar Nick Hewer Margaret Mountford |
Gwlad/gwladwriaeth | Y Deyrnas Unedig |
Iaith/ieithoedd | Saesneg |
Nifer cyfresi | 10 |
Nifer penodau | 120 |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | 60 munud |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | BBC |
Rhediad cyntaf yn | 16 Chwefror 2005 |
Dolenni allanol | |
Gwefan swyddogol |
Roedd The Apprentice yn gyfres deledu realiti Prydeinig, lle mae'r cystadleuwyr yn ceisio ennill cytundeb am swydd gwerth £100,000 y flwyddyn, fel "apprentice" i'r gŵr busnes Seisnig, Syr Alan Sugar. Mae'r enillwyr wedi mynd ymlaen i weithio yn Amstrad, cwmni cynhyrchu electronig a sefydlwyd gan Sugar (ond a werthwyd yn hwyrach i BSkyB) neu un o gwmnïau eraill Syr Alan fel Viglen, Amsprop neu Amshold.
Yn ddiweddar, mae gwobr y raglen wedi newid i fuddsoddiad o £250,000 mewn i fusnes yr enillydd. Mae'r Arglwydd Sugar a'r enillydd yn rhannu'r busnes 50/50. Mae "The Apprentice", sy'n cael ei hysbysebu fel "cyfweliad o uffern am swydd", yn debyg o ran fformat i'r gyfres deledu Americanaidd o'r un enw, sy'n serennu'r dyn busnes Donald Trump.