[go: up one dir, main page]
More Web Proxy on the site http://driver.im/Neidio i'r cynnwys

The Night Manager

Oddi ar Wicipedia
The Night Manager
Genre Drama
Ysbïwriaeth
Serennu Tom Hiddleston
Hugh Laurie
Olivia Colman
Tom Hollander
Tobias Menzies
Elizabeth Debicki
Douglas Hodge
Antonio de la Torre
Cyfansoddwr y thema Victor Reyes
Gwlad/gwladwriaeth Y Deyrnas Unedig
Yr Unol Daleithiau
Iaith/ieithoedd Saesneg
Nifer penodau 6
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 58 munud
Darllediad
Sianel wreiddiol BBC (Y Deyrnas Unedig)
AMC (Yr Unol Daleithiau)
Rhediad cyntaf yn 21 Chwefror, 2016 - 27 Mawrth, 2016
Dolenni allanol
Gwefan swyddogol

Mae The Night Manager yn gyfres deledu Brydeinig-Americanaidd a gyfarwyddwyd gan Susanne Bier ac sy'n serennu Tom Hiddleston, Hugh Laurie, Olivia Colman, David Harewood, Tom Hollander ac Elizabeth Debicki. Fe'i seiliwyd ar y nofel 1993 o'r un enw gan John le Carré ac fe'i diweddarwyd ar gyfer y cyfnod cyfoes.[1][2][3] Dechreuwyd y gyfres chwe-ran ddarlledu ar BBC One ar 21 Chwefror, 2016. Dechreua ddarlledu yng Nghanada a'r Unol Daleithiau ar 19 Ebrill, 2016 ar AMC.

Mae'r cyn-filwr Prydeinig Jonathan Pine (Tom Hiddleston) yn cael ei recriwtio gan Angela Burr (Olivia Colman), gweithredydd gwybodaeth. Gofynnir iddo ymchwilio yn Whitehall a Washington, D.C. lle y mae cynghrair rhwng y gymuned wybodaeth a'r fasnach arfau gyfrinachol. Mae'n rhaid iddo ymdreiddio cylch mewnol y deliwr arfau Richard Onslow Roper (Hugh Laurie), cariad Roper, Jed (Elizabeth Debicki), a'i gydymaith Corkoran (Tom Hollander).

Cynhwyswyd cast y gyfres:[4]

  • Tom Hiddleston fel Jonathan Pine/Andrew Birch
  • Hugh Laurie fel Richard Onslow Roper
  • Olivia Colman fel Angela Burr
  • Tom Hollander fel Major Lance Corkoran
  • Elizabeth Debicki fel Jed Marshall
  • Alistair Petrie fel Yr Arglwydd Sandy Langbourne
  • Douglas Hodge fel Rex Mayhew
  • David Harewood fel Joel Steadman
  • Tobias Menzies fel Geoffrey Dromgoole
  • Antonio de la Torre fel Juan Apostol
  • Adeel Akhtar fel Rob Singhal
  • Michael Nardone fel Frisky
  • David Avery fel Freddie Hamid
  • Amir El-Masry fel Youssuf
  • Aure Atika fel Sophie Alekan
  • Nasser Memarzia fel Omar Barghati
  • Russell Tovey fel Simon Ogilvey
  • Natasha Little fel Lady Caroline Langbourne
  • Neil Morrissey fel Harry Palfrey
  • Katherine Kelly fel Pamela, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Hannah Steele fel Marilyn

Cynhyrchiad

[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd ym mis Ionawr 2015 y byddai'r gyfres yn cael ei chyd-gynhyrchu gan y BBC, AMC a The Ink Factory.[1] Dechreuodd ffilmio yn y gwanwyn 2015 yn Llundain.[5]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Merrill Barr (January 2015). "AMC Will Air 'The Night Manager' Starring Hugh Laurie & Tom Hiddleston". Screen Rant. Cyrchwyd 31 March 2015.
  2. Cynthia Littleton (30 October 2014). "AMC Nabs Hugh Laurie, Tom Hiddleston 'The Night Manager'". Variety. Cyrchwyd 31 March 2015.
  3. Denise Petski (5 March 2015). "Olivia Colman, Tom Hollander, Elizabeth Debicki Join AMC's 'The Night Manager'". Deadline.com. Cyrchwyd 31 March 2015.
  4. "BBC One: The Night Manager". BBC Online. Cyrchwyd 21 February 2015.
  5. Arvin Donguines (14 January 2015). "'The Night Manager' Release Date, Latest News: BBC, The Ink Factory and AMC Announce Mini-Series". Christian Post. Cyrchwyd 31 March 2015.