Tôn (iaith)
Tôn yw'r defnydd o draw mewn iaith i wahaniaethu ystyr gramadegol neu eiriol, hynny yw, i wahaniaethu rhwng neu i ffurfdroi geiriau. Mae pob iaith yn defnyddio traw i fynegi gwybodaeth bara-ieithyddol fel emosiwn, ac i gyfleu pwyslais a chyferbyniad. Ond nid yw pob iaith yn defnyddio tôn i wahaniaethu geiriau neu eu ffurfdroadau. Fe elwir ffonemau tonyddol o'r math hwn yn donemau.
Ieithoedd tonyddol
[golygu | golygu cod]Mae ychydig dros 50% o ieithoedd y byd yn donyddol ond nid yw'r rhan fwyaf o'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd yn donyddol, sef rhai o'r ieithoedd a siaredir y fwyaf yn y byd.
Yn Tsieineeg, fe wahaniaethir y rhan fwyaf o donau gan eu siâp (tro). Mae'r rhan fwyaf o sillafau yn cario tôn eu hun ac fe wahaniaethir rhwng nifer o eiriau drwy dôn yn unig. Yn ogystal, nid yw tôn yn dueddol o chwarae rôl gramadegol (ac eithrio ieithoedd Jin Shanxi).
Yn nifer o'r ieithoedd tonyddol Affricanaidd gan gynnwys y rhan fwyaf o'r ieithoedd Bantw, fe wahaniaethir tonau gan eu lefel berthynol; mae geiriau'n hirach, mae yna lai o barau lleiaf tonyddol, ac fe ellir cario tôn gan y gair i gyd yn hytrach na tôn gwahanol ar bob sillaf. Yn aml fe gyflëir gwybodaeth ramadegol, fel y presennol yn erbyn y gorffennol neu "fi" yn erbyn "chi", drwy dôn yn unig.
Mae nifer o ieithoedd yn defnyddio tôn mewn ffordd fwy cyfyngedig. Mae gan Somali er enghraifft ond un tôn i bob gair. Yn Japaneg mae gan lai na hanner y geiriau ostyngiad yn y traw; mae geiriau yn cyferbynnu yn ôl y sillaf y mae'r gostyngiad yn dilyn. Weithiau fe elwir systemau cyfyngedig o'r math hwn yn acen traw er nad oes gan y gair hwn ddiffiniad cydlynol.
Dosbarthiad daearyddol tonyddiaeth
[golygu | golygu cod]Yn Ewrop mae elfennau tonyddol gan Norwyeg, Swedeg a Lithwaneg, ond fel arfer fe elwir y manion tonyddol hyn yn acen traw. Ieithoedd Indo-Ewropeaidd eraill sydd â thonyddiaeth yw ieithoedd India fel Punjabi a Lahanda.
Mae'r rhan fwyaf o ieithoedd Affrica is-Sahara (heblaw am Swahili, Wolof a Fulani) yn donyddol. Mae Hausa yn donyddol er ei bod yn perthyn i'r ieithoedd Semitaidd nad sy'n donyddol.
Mae yna nifer o ieithoedd tonyddol y Nwyrain Asia, gan gynnwys pob tafodiaith Tsieineeg (er fe ystyrir Shanghainëeg i fod ag acen traw yn unig), Fietnameg, Thai, Lao, a Burmeg a rhai tafodieithoedd Tibeteg. Ond nid yw Japaneg, Mongoleg na Chorëeg yn donyddol.
Mae gan rai o'r ieithoedd cynfrodorol America donyddiaeth, yn enwedig ieithoedd Na-Dené Alaska, ieithoedd Navajo ac yr ieithoedd Oto-Manguean yn Mecsico. Mae rhai o'r ieithoedd Maieg wedi datblygu tonau yn y ganrif ddiwethaf.
Tôn fel nodwedd gwahaniaethu
[golygu | golygu cod]Mae'r rhan fwyaf o ieithoedd yn defnyddio traw i gyfleu gwybodaeth bara-ieithyddol ond nid ydynt yn ieithoedd tonyddol oherwydd hyn. Mewn iaith donyddol mae tôn yn ffonemig ac felly mae yna barau lleiaf a wahaniaethir rhyngddynt gan dôn.
Isod gweler pum tôn syml Mandarin:
- Tôn lefel uchel: /á/ (pinyin <ā>)
- Tôn yn dechrau gyda thraw canol ac yn codi i draw uchel: /ǎ/ (pinyin <á>)
- Tôn isel sydd yn gostwng am ychydig cyn codi i draw uchel os nad oes sillaf yn dilyn: /à/ (pinyin <ǎ>)
- Tôn sy'n cwympo'n gyflym gan ddechrau'n uchel gan gwympo i waelod ystod lleisiol y siaradwr: /â/ (pinyin <à>)
- Tôn niwtral, a ddynodir weithiau gan ddot (.) ym Mhinyin, nid oes tro arbennig iddo; mae ei draw yn dibynnu ar donau y sillafau a ddaw cyn ac ar ei ôl.
Ym Mandarin fe wahaniaethir rhwng gwahanol ystyron y gair "ma" drwy dôn yn unig:
- māma "mam"
- má "cywarch"
- mǎ "ceffyl"
- mà "tafodi"
- ma (geiryn cwestiwn)
Fe ellir cyfuno'r rhain i mewn i frawddeg:
- 妈妈骂马的麻吗? (yn nodweddion traddodiadol; 媽媽罵馬的麻嗎?)
- Pinyin: māma mà mǎ de má ma?
- Cymraeg:"Ydy mam yn tafodi cywarch y ceffyl?"
Mae tonau yn newid dros amser ond yn cadw eu sillafu gwreiddiol.
Tarddiad tôn
[golygu | golygu cod]Fe ddarganfuwyd tarddiad tonau yn Nwyrain a De-ddwyrain Asia gan yr ieithydd A.-G. Haudricourt: tardd tonau mewn ieithoedd fel Fietnameg a Tsieineeg o wrthgyferbyniadau cytseiniol cynharach. Erbyn hyn mae ieithyddion yn cytuno nad oedd dim tonau mewn Hen Tsieineeg. Ar y llaw arall, mae tarddiad tonau yn Affrica Is-Sahara yn anhysbys o hyd: fe ystyrir bod ieithoedd Bantw yn disgyn o iaith donyddol.
Fe elwir tarddiad hanesyddol tonau yn tonogenesis (gair a grëwyd gan yr ieithydd James A. Matisoff). Yn aml mae tôn yn nodwedd awyrol yn hytrach na genetig: Hynny yw, gallai iaith ennill tonau drwy ddwyieithrwydd os yw ieithoedd dylanwadol cyfagos yn donyddol neu os yw siaradwyr iaith donyddol yn newid i'r iaith mewn cwestiwn ac yn dod â'u tonau iddi. Mewn achosion eraill, cwyd tôn yn wirfoddol ac yn gyflym: Mae tôn gan dafodiaith Cherokee a siaredir yn Oklahoma ond nid oes tôn gan y dafodiaith a siaredir yng Ngogledd Carolina, er gwahanodd y ddwy dafodiaith yn 1838.
Yn aml iawn cwyd tôn oherwydd colled cytseiniaid. Mewn iaith ddidonyddol mae cytseiniaid lleisiol yn achosi'r llafariad sy'n dilyn i gael eu hyngangu ar draw is. Fel arfer dim ond manylyn bach ffonetig yw hyn. Ond, os bydd y lleisio'n cael ei golli, byddai'r gwahaniaeth mewn traw yn aros ar ôl i gario'r gwahaniaeth a gariodd y lleisio coll, ac fe ddaw'r traw is yn ystyrlon (ffonemig), hynny yw, ond traw sy'n gwahaniaethu rhwng y ddau neu fwy o eiriau bellach.