Rhodd Mam
Gwedd
- Erthygl am y catecism yw hon. Gweler hefyd Rhodd Mam, nofel gan Mary Annes Payne.
Catecism neu holwyddoreg Methodistiaid Calfinaidd Cymru yn y 19g ar gyfer pobl ifanc oedd Rhodd Mam i'w Phlentyn neu, yn syml, Rhodd Mam (argraffiad cyntaf: 1811). Fe'i gelwir yn "Rhodd Mam" am fod mamau yn ei brynu i'w plant ddefnyddio yn yr Ysgol Sul.
Ei awdur oedd y gweinidog a golygydd John Parry, sefydlydd gwasg yn ninas Caer. Ceiniog yn unig oedd ei bris pan ddaeth allan, ond er yn llyfr bychan cafodd ddylanwad mawr gan hyfforddi cenedlaethau o blant ac oedolion yn egwyddorion y Ffydd. Daeth yr enw yn ystrydeb. Argraffwyd miloedd lawer o gopïau ac roedd yn un o'r llyfrau Cymraeg mwyaf cyfarwydd yn y 19g.
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |