Newyddion (S4C)
Newyddion | |
---|---|
Genre | Newyddion |
Cyflwynwyd gan | Bethan Rhys Roberts, Rhodri Llywelyn |
Gwlad/gwladwriaeth | Y Deyrnas Unedig |
Iaith/ieithoedd | Cymraeg |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | 30 munud |
Cwmnïau cynhyrchu |
BBC Cymru |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | S4C |
Fformat llun | 720x576 anamorphic 16:9 |
Rhaglen deledu ar S4C yw Newyddion, sy'n darlledu newyddion lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn yr iaith Gymraeg. Caiff y rhaglen ei gynhyrchu gan BBC Cymru, a caiff ei ddarlledu fel rheol rhwng 19.30 a 21.00 yn ystod yr wythnos, gyda bwletinau byrrach ar hap ar brynhawn Sadwrn a Sul.
Dechreuwyd darlledu bwletinau ychwanegol yn ystod yr wythnos yn 2009. Y patrwm arferol o Fawrth 2013 ymlaen oedd bwletin 5 munud o hyd am 13:00, 14:55 a 18:30.
Fe wnaeth Dewi Llwyd adael y rhaglen ym mis Rhagfyr 2012 ar ôl bron 30 mlynedd gyda thîm Newyddion.[1]
Ym mis Mawrth 2013 fe wnaeth S4C newidiadau sylweddol i'w amserlen gan symud y brif rhaglen newyddion i 9 o'r gloch y nos[2] gyda dau gyflwynydd parhaol Rhun ap Iorwerth a Bethan Rhys Roberts. Fe wnaeth Rhun ap Iorwerth sefyll llawr ym Mehefin 2013 er mwyn ceisio cael ei enwebu fel ymgeisydd Plaid Cymru dros Ynys Môn.[3]. Yn ddiweddarach daeth Rhodri Llywelyn fel cyflwynydd parhaol.
Ar 24 Chwefror 2020 symudodd y rhaglen nôl i slot 19:30 gyda bwletin 5 munud am 20:55.[4]
Gwasanaeth 'Newyddion S4C' ar-lein
[golygu | golygu cod]Ar 6 Ebrill 2021 lansiwyd gwasanaeth ar-lein Newyddion S4C gan S4C. Mae'r ddarpariaeth newyddion yma dim ond ar y cyfryngau cymdeithasol (megis Facebook) ac yn cynnwys eitemau gan wasanaeth newyddion y BBC ond hefyd darparwyr eraill megis Golwg360 ac ITV Cymru Wales ac mae'n annibynnol o olygyddiaeth y BBC a rhaglen Newyddion S4C.[5]