Leo Africanus
Leo Africanus | |
---|---|
Llun tybiedig o Leo Africanus gan Sebastiano del Piombo, tua 1520 | |
Ganwyd | حسن ابن محمد الوزان الغرناطي c. 1494 Granada |
Bu farw | 16 g Tiwnisia |
Dinasyddiaeth | Emirate of Granada, Taleithiau'r Babaeth, Moroco |
Alma mater | |
Galwedigaeth | fforiwr, daearyddwr, diplomydd, llenor |
Adnabyddus am | Description of Africa |
Awdur Arabaidd oedd Joannes Leo Africanus, enw gwreiddiol al-Hasan ibn Muhammad al-Wazzan al-Fasi, Arabeg: حسن ابن محمد الوزان الفاسي (c. 1494 - c. 1554?). Mae'n adnabyddus am ei lyfr Descrittione dell’Africa ("Disgrifiad o Affrica"), yn disgrifio daearyddiaeth Gogledd Affrica.
Ganed Leo Africanus yn Granada, Al Andalus (yn awr Sbaen) tua 1494. Symudodd y teulu i Fez yn Moroco yn fuan wedyn. Fel gŵr ieuanc, bu ar deithiau diplomatig gyda'i ewythr, gan gyrraedd Timbuktu tua 1510. Yn 1517, wrth iddo ddychwelyd o daith i ddinas Caergystennin dros y Swltan Muhammad II o Fez, roedd yn Rosetta yn ystod concwest yr Aifft gan yr Ymerodraeth Ottoman. Ar y ffordd yn ôl i Tunis yn 1518, cymerwyd ef yn garcharor gan fôrladron Sbaenig, un ai ger ynys Djerba neu ger Creta. Cymerwyd ef i ddinas Rhufain, lle cadwyd ef yn garcharor yn y Castel Sant’Angelo am gyfnod. Pan sylweddolwyd ei bwysigrwydd, rhyddhawyd ef a'i gyflwyno i'r Pab Leo X. Bedyddiwyd ef yn Masilica Sant Pedr yn 1520, gan gymeryd yr enw Joannes Leo de Medicis. Bu'n teithio yn yr Eidal, gan aros yn Bologna am gyfnod, cyn dychwelyd i Rufain yn 1526 a chyhoeddi ei Della descrittione dell’Africa et delle cose notabili cheiui sono, per Giovan Lioni Africano.
Nid oes sicrwydd am ei symudiadau wedi hyn. Yn ôl un traddodiad, gadawodd Rufain yn 1527 a dychwelyd i Tunis, lle dychwelodd at Islam.