Jack Abramoff
Jack Abramoff | |
---|---|
Ganwyd | 28 Chwefror 1959, 28 Chwefror 1958 Atlantic City |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cynhyrchydd ffilm, cyfreithiwr, lobïwr, sgriptiwr ffilm |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol |
Gwefan | https://abramoff.com/ |
Cyn-lobïwr o'r Unol Daleithiau sydd bellach yn ymgyrchydd yn erbyn lobïo yw Jack Allan Abramoff (/ˈeɪbrəmɒf/; ganwyd 28 Chwefror 1959) a fu hefyd yn gweithio fel dyn busnes, cynhyrchydd ffilmiau, ac awdur.[1][2] Ef oedd y ffigwr canolog mewn ymchwiliad i lygredigaeth wleidyddol ar raddfa eang, ac o ganlyniad cafodd Abramoff a 21 o unigolion eraill eu canfod yn euog, gan gynnwys swyddogion y Tŷ Gwyn J. Steven Griles a David Safavian, y Cynrychiolydd Bob Ney, a naw o lobiwyr eraill a chynorthwywyr cyngresol.
Abramoff oedd cadeirydd cenedlaethol Pwyllgor Colegol y Blaid Weriniaethol o 1981 hyd 1985, un o'r aelodau a sefydlodd yr International Freedom Foundation (a honnir ei fod yn derbyn cyllid o lywodraeth De Affrica yn oes apartheid),[3] a gwasanaethodd yn weithredwr ar fwrdd y felin drafod geidwadol National Center for Public Policy Research. O 1994 hyd 2001 roedd yn un o brif lobiwyr Preston Gates & Ellis, a Greenberg Traurig hyd fis Fawrth 2004.
Plediodd Abramoff yn euog yn Ionawr 2006 i bum cyhuddiad o ffeloniaeth yn ymwneud â sgandal ynghylch lobïo dros gasinos Americanwyr Brodorol, gan gynnwys SunCruz Casinos.[4][5] Cafodd ei ddedfrydu i chwe blynedd mewn carchar ffederal am dwyll post, cynllwynio i lwgrwobrwyo swyddogion cyhoeddus, ac efadu trethi. Cafodd ei garcharu am 43 mis cyn iddo gael ei ryddhau yn Rhagfyr 2010.[6] Wedi iddo gael ei ryddhau o'r carchar, ysgrifennodd hunangofiant Capitol Punishment: The Hard Truth About Washington Corruption From America's Most Notorious Lobbyist (2011).
Bu'r sgandalau yn destun dwy ffilm yn y flwyddyn 2010: y ffilm ddogfen Casino Jack and the United States of Money,[7] a'r ffilm Casino Jack a serenodd Kevin Spacey yn rhan Abramoff.[8][9]
Sgandal yr Indiaid
[golygu | golygu cod]Mae sgandal lobïo Indiaidd Jack Abramoff yn sgandal gwleidyddol Americanaidd sy'n gysylltiedig â gwaith perfformiwyd gan y lobïwyr gwleidyddol Jack Abramoff, Ralph E. Reed, Jr., Grover Norquist a Michael Scanlon dros fuddiannau gamblo casino Indiaidd am amcangyfrif o $85 miliwn mewn taliadau. Gorfiliodd Abramoff a Scanlon eu cleientiaid, a rhannon nhw'r elw o filiynau o ddoleri yn gyfrinachol.
Yng nghwrs y cynllun, mae'r lobïwyr wedi'u cyhuddo o roi anrhegion a rhoddion ymgyrch yn anghyfreithlon i ddeddfwyr mewn gyfnewid am bleidleisiau neu gefnogaeth deddfwriaeth. Mae'r cynrychiolydd Bob Ney (R-OH) a gweinydd i Tom DeLay (R-TX) wedi'u ymhlygu'n syth; mae gan wleidyddion eraill, y rhan fwyaf ohonynt yn ddeddfwyr Gweriniaethol, sydd â chysylltiadau â materion Indiaidd clymau amrywiol. Mae ôl-effeithiau'r ymchwiliad wedi achosi DeLay i ymddiswyddo o'i swydd fel arweinydd Tŷ'r Cynrychiolwyr.
Mae Scanlon ac Abramoff wedi pledio'n euog i amrywiaeth o gyhuddiadau cysylltiedig â'r gynllun.
Ar Ddydd Gwener, 25 Tachwedd, 2005, adroddodd The Wall Street Journal ehangiad ymchwiliad pedair aelod o'r Cyngres: yn ogystal â Ney a DeLay, mae'r adroddiad yn cynnwys y Cyn. John Doolittle (G., Calif.) a'r Llyw. Conrad Burns (G., Mont.) [10] Ar 2 Rhagfyr, 2005, adroddodd The New York Times fod erlynyddion ffederal yn ystyried trefniant plediad bargeniol a fydd yn rhoi tipyn o ystyriaeth i Abramoff os rhoddai dystiolaeth bydd yn ymhlygu bod aelodau'r Cyngres a'u staffwyr hŷn wedi derbyn cynigion swydd mewn gyfnewid am ffafrau deddfwriaethol.
Ar 3 Ionawr, 2006, plediodd Abramoff yn euog i dri gyhuddiad ffeloniaeth — cynllwyn, twyll ac osgoi treth — ynglŷn â chyhuddiadau yn dod yn benodol o'i weithgareddau lobïo yn Washington ar ran llwythi Americanawyr Brodorol. Hefyd, mae angen i Abramoff a ddiffynyddion eraill wneud adferiad o o leiaf $25 miliwn â amddifadwyd trwy dwyll o gleientiaid, yn enwedig y lwythi Americanwyr Brodorol. Ymhellach, mae Abramoff $1.7 miliwn mewn dyled i'r IRS fel ganlyniad o'i ble euog i'r cyhuddiad o osgoi treth.[11]. Mae ffeil y llys ar gael fel PDF.[12]
Mae'r cytundeb yn honni y gwnaeth Abramoff llwgrwobrwyo swyddogion cyhoeddus. Mae un o'r achosion o lwgrwobrwyo â ddisgrifwyd yn fanwl am berson â adnabwyd fel "Representative #1," â adroddir gan The Washington Post i fod yn y Gynrychiolydd Bob Ney (R-OH). Cadarnhaodd llefarydd Ney taw Ney oedd y Cynrychiolydd â nodir, ond gwadodd unrhyw ddylanwad amhriodol.[13] Mae'r cytundeb hefyd yn manylu ar ymarfer Abramoff o gyflogi staffwyr Cyngresol blaenorol. Defnyddiodd Abramoff ddylanwad y bobl yma i lobïo eu cyflogwyr Cyngresol blaenorol, yn groes i waharddiad ffederal un-mlynedd ar y fath lobïo.[14][15]
Ar ôl ple Abramoff o euogrwydd, symudwyd ymchwiliadau i Ionawr cynnar 2006 er mwyn canolbwyntio ar gwmni lobïo Alexander Strategy Group [16], sefydlwyd gan "cyfaill agos o DeLay a'i phennaeth staff blaenorol."[17] Cyhoeddoedd y cwmni lobïo y byddai'n cau erbyn diwedd yr un mis oherwydd "cyhoeddusrwydd angheuol"; roedd wedi cynrychioli cwmnïau mawr megis Microsoft a PhRMA. Ar 1 Mai, 2006, cytunodd y Gwasanaeth Cudd i ryddhau logiau o bob cyfarfod â Jack Abramoff ar neu cyn 10 Mai.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ James, Frank (18 Tachwedd 2011). "Jack Abramoff: From Corrupt Lobbyist To Washington Reformer". NPR. Cyrchwyd 9 Mawrth 2012.
- ↑ "Red Scorpion". Cyrchwyd 31 March 2017.
- ↑ Dele Olojede; Timothy M. Phelps (16 Gorffennaf 1995). "Front for Apartheid". Newsday.
- ↑ Abramoff Pleads Guilty, Will Help in Corruption Probe, Bloomberg News Service, 3 Ionawr 2006.
- ↑ "Abramoff Pleads Guilty, Will Help in Corruption Probe" Archifwyd 2006-01-27 yn y Peiriant Wayback, CBS News, 4 Ionawr 2006.
- ↑ "Inmate Locator". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-08-27. Cyrchwyd 31 March 2017.
- ↑ Stephen Holden, "The Eye in a Hurricane of Corruption", New York Times, 7 Mai 2010.
- ↑ "Casino Jack". 7 Ionawr 2011. Cyrchwyd 31 March 2017 – drwy IMDb.
- ↑ "Bagman Trailer: The Other Jack Abramoff Movie", Vulture at New York, 15 Mehefin 2010.
- ↑ (Saesneg)"Four congressmembers role in Abramoff lobbying scandal probed", The Raw Story.
- ↑ (Saesneg)"Lobbyist Abramoff Pleads Guilty to Fraud Charges", NPR, 03 Ion, 2006.
- ↑ (Saesneg) Ple euog Abramoff – ffeil y llys PDF
- ↑ (Saesneg)"GOP Leaders Seek Distance From Abramoff", The Washington Post, 04 Ion, 2006.
- ↑ (Saesneg) Defnydd dylanwad staffwyr cyngresol blaenorol i lobïo eu cyflogwyr Cyngresol blaenorol PDF
- ↑ (Saesneg)"Lobbyist case threatens Congress", BBC News, 04 Ion, 2006.
- ↑ (Saesneg) Alexander Strategy Group Archifwyd 2006-01-12 yn y Peiriant Wayback
- ↑ (Saesneg)"U.S. lobbying inquiry shifts to a second firm", International Herald Tribune, 08 Ion, 2006.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Jack Abramoff's CV
- (Saesneg) Abramoff: The House that Jack built Archifwyd 2006-02-13 yn y Peiriant Wayback
- Newyddion
- (Saesneg) The Abramoff Galaxy: Washington Post Graphic
- (Saesneg) "How Abramoff Spread the Wealth", The Washington Post, 12 Rhagfyr, 2005.
- (Saesneg) "The Fast Rise and Steep Fall of Jack Abramoff", The Washington Post, 29 Rhagfyr, 2005.
- (Saesneg) "Unraveling Abramoff", The Washington Post, 3 Ionawr, 2006.
- (Saesneg) BBC News – Q&A: Jack Abramoff scandal
- Barnau
- (Saesneg) Who in the Abramoff scandal is guilty of what? Archifwyd 2006-02-13 yn y Peiriant Wayback