Ibn Battuta
Ibn Battuta | |
---|---|
Ganwyd | 24 Chwefror 1304 Tanger |
Bu farw | c. 1368 Fès |
Galwedigaeth | fforiwr, daearyddwr, llenor, mapiwr, qadi, masnachwr, teithiwr, Islamic jurist |
Adnabyddus am | The Rihla |
Priod | first wife of Ibn Battuta |
Teithiwr ac awdur Amazigh oedd Abu Abdullah Mohammed ibn Battuta, adwaenir fel Ibn Battuta (1304 – 1368 neu 1369).
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed ef yn Tangier, ym Moroco heddiw. Roedd yn aelod o lwyth Berberaidd y Luwata. Ei enw llawn oedd Abdullah Mohammed ibn Abdullah ibn Mohammed ibn Ibrahim al-Lawati ibn Battuta.
Yn 1325, gadawodd Ibn Battuta ddinas Tangier ar bererindod i Mecca. Dilynodd arfordir Gogledd Affrica i Cairo, a theithio i fyny afon Nîl cyn croesi ar y Môr Coch. Methodd gyrraedd Mecca oherwydd gwrthryfel, a dychwelodd i Cairo. Oddi yno, teithiodd i ddinas Damascus, yna i Medina a Mecca. Wedi cwblhau ei bererindod, parhaodd i deithio.
Ymwelodd ac ardaloedd Irac ac Iran, gan deithio trwy Najaf, Basra, Isfahan a Shiraz i Baghdad, lle cyfarfu a'r khan Abu Sa'id. Ymwelodd a Mosul, Diyarbakır a Tabriz cyn dychwelyd i Mecca tua 1328.
Tua 1331, aeth ar daith tua'r de, gan ymweld ag Aden, yna ar hyd arfordir dwyreiniol Affrica i Mogadishu, Mombassa, Zanzibar, Kilwa a dinasoedd eraill. Teithiodd ar draws penrhyn Arabia i ddychweld i Mecca.
Ar ei daith nesaf, aeth trwy'r Aifft, Syria ac Anatolia i gyrraedd y Môr Du, cyn dilyn afon Dnieper ac afon Volga i gyrraedd Bwlgaria. Aeth ymlaen i ddinas Caergystennin, man geni ei wraig, ar hyd arfordir gogleddol Môr Caspia i Ganolbarth Asia, lle ymwelodd a Buchara, Samarkand, Balkh, Kunduz a Kabul a chyrraedd at afon Indus.
Gwnaeth swltan Delhi ef yn qadi (barnwr), a bu yma am wyth mlynedd (tua 1334-1342). Pendodwyd ef yn lysgennad i Tsieina. Ar y ffordd yno, ymwelodd a'r Maldives, lle bu'n gweithio fel qadi am naw mis, ac ymweld a Malabar, Ceylon a Bengal, yna a Sumatera a Cambodia cyn cyrraedd Quanzhou tua 1346. Teithiodd yn ôl o Tsieina trwy Calicut, Hormuz, Baghdad a Caïro, ymwelodd a Mecca eto ac yna ag ynys Sardinia cyn dychwelyd i Moroco yn 1349, wedi bron 25 mlynedd o deithio.
Yn 1350, teithiodd i Andalucía, ac ymwelodd a Valencia a Granada. Yn 1352-1354 aeth ar ei daith olaf, gan groesi anialwch y Sahara i gyrraedd afon Niger, ac ymweld a dinas Timbuktu. Dychwelodd i Fez ym Moroco, lle bu'n gwasanaethu fel qadi eto. Bu farw tua 1368 neu 1369. Rhoddodd hanes ei deithiau mewn llyfr gyda'r teitl Rihla ("Teithiau").