Kevin Barry
Kevin Barry | |
---|---|
Ganwyd | 20 Ionawr 1902 Dulyn |
Bu farw | 1 Tachwedd 1920 o crogi Mountjoy Prison |
Man preswyl | Swydd Dulyn |
Dinasyddiaeth | Gwyddel |
Alma mater | |
Galwedigaeth | myfyriwr meddygol, chwaraewr rygbi'r undeb |
Chwaraeon |
Myfyriwr meddygol a chenedlaetholwr Gwyddelig oedd Kevin Gerard Barry (20 Ionawr 1902 – 1 Tachwedd 1920) a'r cyntaf i gael ei ddienyddio gan Brydain ers iddynt ladd 16 o Wyddelod ym Mai 1916, yn dilyn Gwrthryfel y Pasg. 18 oed ydoedd pan gafodd ei grogi.[1] Y cyhuddiad yn ei erbyn oedd ei fod wedi cymryd rhan, fel un o'r Gwirfoddolwyr Gwyddelig, mewn ymgyrch pan saethwyd tri o filwyr Prydain. Claddwyd Kevin Gerard Barry ym Mynwent Glasnevin, (Gwyddeleg: Reilig Ghlas Naíon) sef prif fynwent Gatholig Dulyn.[2]
Tra yn Mountjoy Prison, diwrnod neu ddau cyn iddo gael ei ddienyddio, arwyddodd affidavit, yn manylu sut yr oedd wedi cael ei arteithio yn y carchar gan filwyr byddin Prydain, fel ymgais i'w gael i ddatgelu enwau ei gyd-genedlaetholwyr.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ McConville, Séan (2005). Irish Political Prisoners, 1848–1922: Theatres of War. London: Routledge. ISBN 0-415-37866-4.
- ↑ Curtis, Liz (1995). The Cause of Ireland: From the United Irishmen to Partition. Belfast: Beyond the Pale Publications. ISBN 0-9514229-6-0.
- ↑ Nodyn: cymerwyd yr affidavit gan Seán Ó hUadhaigh, cyfreithiwr; tyst: Myles Keogh, Ynad Heddwch, ac arwyddwyd ef gan Kevin Barry. Mae'r gwreiddiol yn yr Amgueddfa Genedlaethol.
|