Frederick Richard West
Frederick Richard West | |
---|---|
Ganwyd | 1799 |
Bu farw | 1 Mai 1862 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 10fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 8fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 9fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Tad | Frederick West |
Mam | Maria Myddelton |
Priod | Theresa Whitby, Lady Georgiana Stanhope |
Plant | William Cornwallis-West, Georgiana Theresa Ella Cornwallis-West |
Roedd Frederick Richard West (1799 – 1 Mai 1862) yn Aelod Seneddol Ceidwadol. Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Dinbych rhwng 1826 a 1830 ac eto rhwng 1847 a 1857, bu hefyd yn AS East Grinstead rhwng 1830 a 1832[1]
Bywyd Cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd West yn Sgwâr Hanover, Llundain ym 1799 yn trydydd mab Frederick William West, Castell y Waun (1773-1852) a Maria Myddleton ei wraig. Bu Fredrick William yn AS Bwrdeistrefi Dinbych rhwng 1802 ac 1806, a bu taid ar ochor mam Fredrick Richard, Richard Myddleton, yn cynrychioli'r etholaeth rhwng 1747 a 1788.
Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Eton ac yng Ngholeg Eglwys Crist, Rhydychen. Gadawodd Rhydychen heb dderbyn gradd.[2]
Gyrfa wleidyddol
[golygu | golygu cod]1826 – 1832
[golygu | golygu cod]Safodd fel ymgeisydd dros Fwrdeistrefi Dinbych yn etholiad Cyffredinol 1820, gan golli i John Wynn Griffiths.
Bu anghydfod rhwng mam West a'i chwiorydd parthed perchenogaeth Castell y Waun wedi marwolaeth Richard Myddleton, cafodd y mater ei setlo gan y llysoedd ym 1819 ond parhaodd y drwgdeimlad rhwng y chwiorydd wedi hynny.[3]
Cyn yr 20g doedd dim diwrnod etholiadau penodedig fel sydd bellach; roedd y Senedd yn cael ei gau a bu cyhoeddiad bod raid i bob etholaeth dewis aelod newydd mewn da bryd i gyrraedd Llundain erbyn cychwyn y senedd nesaf. Mater i Uchel Siryf y Sir oedd penodi diwrnod ar gyfer y bleidlais. Bu etholaethau pell i ffwrdd o San Steffan, megis rhai'r Alban yn cynnal etholiadau cynnar iawn ac etholaethau Llundain yn cynnal etholiadau hwyr. Y tueddiad yng Nghymru oedd cynnal etholiadau yn y cyfnod canolig. Roedd cefnder West, mab chwaer ei fam, Robert Myddelton-Biddulph ar fin dathlu ei ben blwydd yn 21in oed (sef yr oedran y caniatawyd dynion i sefyll mewn etholiad) ac yn disgwyl i'r etholiad cael ei gynnal ar ôl ei ben-blwydd. Cyhoeddodd Myddelton-Biddulph ei fwriad i sefyll dros y bwrdeistrefi, ond perswadiodd West y Siryf i gynnal etholiad cynnar gan rwystro Myddleton-Biddulph rhag sefyll.[3]
Er gwaethaf ei ddichell bu bron i gynllun West fethu. Cefnogodd teulu Myddleton-Biddulph ymgeisydd arall o'r enw Joseph Ablet. Enillodd y ddau ymgeisydd 273 o bleidleisiau'r un. Cyflwynwyd deiseb i'r senedd i geisio pennu'r enillydd ond tynnodd Ablet ei enw yn ôl cyn clywed y ddeiseb, gan roi'r sedd i West.[1]
Gan wybod nad oedd triciau dan dîn yn mynd i drechu ei gefnder yr ail dro, penderfynodd West i beidio ag amddiffyn y sedd yn etholiad cyffredinol 1830. Safodd yn etholaeth East Grinstead, Dwyrain Sussex, lle'r oedd ei dad yn berchen ar ystâd. Roedd East Grinstead yn etholaeth bwdr, lle fu 32 o etholwyr yn ethol 2 AS. Dilëwyd yr etholaeth yn Neddf Diwygio Fawr 1832, gan adael West heb sedd.
Yn y cyfnod yma o'i yrfa seneddol bu West yn hynod wrthwynebus i roi hawliau sifil i Gatholigion ac Iddewon; safbwynt na fyddai wedi brifo ei obeithion etholiadol ymysg pleidleiswyr Anglicanaidd ac Anghydffurfiol Dinbych. I geisio cryfhau ei afael ar yr etholaeth ceisiodd codi morgeisi i brynu eiddo yn yr etholaeth (mewn cyfnod lle fu tenant, nad oedd yn cefnogi ei landlord, yn cael ei droi allan o'r eiddo). Gwrthododd bancwyr Iddewig Llundain, a phrif fancwyr Gogledd Cymru (teulu Catholig Sankey) benthyg arian iddo, mewn protest, gan ddryllio ei obeithion.[3]
1847 – 1857
[golygu | golygu cod]Bu West yn yr anialwch gwleidyddol rhwng 1832 a 1847, ond wedi cymedroli rhywfaint ar uchel Dorïaeth ei ieuenctid ac ychwanegu Wrecsam i Fwrdeistrefi Dinbych gwelodd cyfle i ail afael ar ei yrfa seneddol. Mewn cyfnod lle fu anghydfod mawr parthed diffyn tollau ar ŷd a'r orfodaeth i dalu treth degwm i'r Eglwys. Safodd fel Ceidwadwr Rhyddfrydig, un oedd am gymodi a dod i gyfaddawd teg rhwng dadleuwyr ffyrnig y naill ochrau a'r lleill. Cafodd ei ethol yn ddiwrthwynebiad ym 1847 amddiffynnodd y sedd yn erbyn ymgeisydd Rhyddfrydol ym 1852 cyn ymneilltuo o'r Senedd, mewn iechyd gwael ym 1857
Bywyd Personol
[golygu | golygu cod]Priodasau
[golygu | golygu cod]Bu'n briod ddwywaith ei wraig gyntaf oedd y Ledi Georgina Stanhope merch Philip Stanhope, 5ed Iarll Chesterfield a Henrietta, merch Thomas Thynne, Ardalydd 1af Bath. Priodasant 14 Tachwedd 1820; bu iddynt dau blentyn a fu farw ychydig ar ôl eu geni, bu farw hi o wewyr geni'r ail blentyn ym 1824.
Ym 1827 priododd Theresa merch y Capten John Whitby, bu iddynt 3 mab ac un ferch. Un o'r meibion oedd William Cornwallis-West, a ddaeth yn AS Orllewin Sir Ddinbych.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw yn ei gartref, Castell Rhuthun, a rhoddwyd ei olion i orffwys mewn claddgell deuluol yn eglwys Sant Pedr, Rhuthun.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Williams, William Retlaw The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliesr times to the present day, 1541-1895
- ↑ The Canterbury Association (1848-1852): A Study of Its Members’ Connections
- ↑ 3.0 3.1 3.2 WEST, Frederick Richard (1799-1862), of Ruthin Castle, Denb. Published in The History of Parliament: the House of Commons 1820-1832, ed. D.R. Fisher, 2009
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: John Wynne Griffith |
Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Dinbych 1826 – 1820 |
Olynydd: Robert Myddelton-Biddulph |
Rhagflaenydd: Is Iarll Holmesdale |
Aelod Seneddol East Grinstead 1830 – 1832 |
Olynydd: Diddymu |
Rhagflaenydd: Townshend Mainwaring |
Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Dinbych 1847 – 1857 |
Olynydd: Townshend Mainwaring |