Evesham
Math | tref, plwyf sifil, tref farchnad |
---|---|
Enwyd ar ôl | Eof |
Ardal weinyddol | Ardal Wychavon |
Poblogaeth | 27,684, 23,428, 22,304 |
Gefeilldref/i | Dreux, Evesham Township, Melsungen, Koudougou |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Gaerwrangon (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 1,601.32 ha |
Yn ffinio gyda | Alcester |
Cyfesurynnau | 52.09°N 1.95°W |
Cod SYG | E04010391 |
Cod OS | SP0343 |
Cod post | WR11 |
Tref a phlwyf sifil yn Swydd Gaerwrangon, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Evesham.[1] Fe'i lleolir rhwng Caerwrangon a Stratford-upon-Avon, ar lan Afon Avon, sy'n llifo trwy'r Vale of Evesham. Mae Caerdydd 108.2 km i ffwrdd o Evesham ac mae Llundain yn 142.2 km. Y ddinas agosaf ydy Caerwrangon sy'n 21.6 km i ffwrdd.
Mae'n dref farchnad gyda thyfu llysiau a ffrwythau yn bwysig i'r economi.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 23,428.[2]
Hanes
[golygu | golygu cod]Ymladdwyd Brwydr Evesham ar 4 Awst 1265; lladdwyd Simon de Montfort yno, cynghreiriad Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru. Yma hefyd roedd Abaty Evesham, un o'r rhai mwyaf yn Ewrop yn ei gyfnod: dim ond Clochdy'r Abad Lichfield sy'n aros. Dywedir i Abaty Evesham gael ei sefydlu gan Sant Egwin, trydydd Esgob Caerwrangon. Penodwyd y Cymro Lewis Bayly, awdur The Practice of Piety (1611), yn ficer Evesham yn 1600, lle daeth hefyd yn brifathro'r ysgol ramadeg; apwyntiwyd ef yn Esgob Bangor yn 1616.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 4 Gorffennaf 2020
- ↑ City Population; adalwyd 19 Mai 2019
Dinas
Caerwrangon
Trefi
Bewdley · Bromsgrove · Droitwich Spa · Evesham · Kidderminster · Malvern · Pershore · Redditch · Stourport-on-Severn · Tenbury Wells · Upton-upon-Severn