[go: up one dir, main page]
More Web Proxy on the site http://driver.im/Neidio i'r cynnwys

Yr Eglwys yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Eglwys yng Nghymru)
Yr Eglwys yng Nghymru
Enghraifft o'r canlynoleglwys gwladol, cyhoeddwr, Eglwys Esgobol Edit this on Wikidata
Rhan oAnglicaniaeth Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1920 Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifLlyfrgell Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolCyngor Eglwysi'r Byd Edit this on Wikidata
PencadlysCaerdydd Edit this on Wikidata
Enw brodorolYr Eglwys yng Nghymru Edit this on Wikidata
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.churchinwales.org.uk Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Esgobaethau Cymru

Y gangen Gymreig o'r Eglwys Anglicanaidd yw'r Eglwys Yng Nghymru.[1] Datgysylltwyd Yr Eglwys yng Nghymru oddi wrth Eglwys Loegr ar 31 Mawrth 1920, dan Ddeddf yr Eglwys Gymreig (1914). Mae'r corff yn berchen ar bron i 1,400 o eglwysi yng Nghymru mewn dros 900 o blwyfi. Diffinia ei hun fel, "eglwys hynafol y tir hwn... sy'n gafael yn dynn yn yr athrawiaeth a'r weinidogaeth o un Eglwys gatholig ac efengylaidd.".[2]

Etholwyd Andy John yn Archesgob Cymru ym mis Rhagfyr 2021.[3]

Mae'r Eglwys yng Nghymru yn cydnabod Archesgob Caergaint fel canolbwynt undod, ond nid oes ganddo awdurdod dros yr Eglwys yng Nghymru.[4]

Esgobaethau

[golygu | golygu cod]

Mae talaith yr Eglwys wedi'i rhannu'n chwe esgobaeth. Rhennir yr Eglwys yng Nghymru yn chwe esgobaeth, a gofelir am bob un gan Esgob. Ym mhob un o’r esgobaethau y mae dwy neu dair o archddiaconiaethau; mae pymtheng archddiaconiaeth yn Yr Eglwys yng Nghymru. Penodir Archddiacon i bob un, ac y mae'r Archddiacon yn atebol i'r Esgob am eu gweinyddu. Rhennir yr Archddiaconiaethau ymhellach yn Ddeoniaethau.

Mae gan bob un o’r chwe esgobaeth yn Yr Eglwys yng Nghymru Gadeirlan. Hi yw mam-eglwys yr esgobaeth. Yma hefyd y mae 'cadair' yr Esgob. Yn y Gadeirlan y cynhelir digwyddiadau pwysig, megis Sefydlu Esgob newydd. Mae i bob Cadeirlan ei Deon. Fe’i penodwyd i redeg y Gadeirlan, gyda chymorth y Siapter. Ynghyd â'r Archddiaconiaid, y mae Deon y Gadeirlan yn un o glerigion mwyaf blaenllaw’r esgobaeth ar ôl yr Esgob.

Rheolir pob Cadeirlan yng Nghymru gan Siapter, sy'n cynnwys y Deon a nifer o Ganoniaid, a ddewisir o blith clerigion yr esgobaeth.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. cym.eglwysyngnghymru.org.uk; Archifwyd 2016-01-11 yn y Peiriant Wayback adalwyd 16 Ionawr 2016
  2. Y Catechism; Amelinelliad o'r Ffydd - The Catechism: An Outline of the Faith. Section III, isgymal 25, tud. 7 (Caerdydd. Gwasg yr Eglwys yng Nghymru 1993)
  3. "Ethol Archesgob Cymru Newydd", Gwefan yr Eglwys yng Nghymru, 6 Rhagfyr 2021; adalwyd 22 Rhagfyr 2021
  4. s.6, Welsh Church (Temporalities) Deddf 1919.