Demograffeg y Swistir
Saif y Swistir yng nghanolbarth Ewrop, ac mae'n fan cyfarfod i nifer o ddiwylliannau Ewrop, gan fod y wlad yn ffinio â Ffrainc, yr Almaen a'r Eidal. Mae 75% o'r boblogaeth yn byw ar y llwyfandir yng nghanol y wlad, rhwng yr Alpau a mynyddoedd y Jura ac o ddinas Genefa yn y gorllewin hyd afon Rhein a'r Bodensee yn y gogledd-ddwyrain. Mae gan y wlad safon byw gyda'r uchaf yn y byd.
Ceir nifer sylweddol o drigolion nad ydynt yn ddinasyddion y Swistir; 1,524,663 (20.56%) yn 2004, o'i gymharu a tua 5.9 miliwn o ddinasyddion yr un flwyddyn. Roedd tua 623,100 o ddinasyddion y Swistir yn byw mewn gwledydd eraill, y nifer fwyaf yn Ffrainc (166,200).
O ran crefydd, disgrifiai 5.78 miliwn (79.2%) o'r trigolion eu hunain fel Cristnogion yn 2000 (Catholig 41.8%, Protestaniaid 35.3%, Eglwys Uniongred 1.8%). Roedd 809,800 (11.1%) heb grefydd, 310,800 (4.3%) yn ddilynwyr Islam a 17,900 (0.2%) yn Iddewon.
Dinasoedd
[golygu | golygu cod]Dinasoedd mwyaf y Swistir yn ôl poblogaeth yw:
Rhif | Enw | 1995 | 2000 | 2005 | 2006 | Canton |
---|---|---|---|---|---|---|
1. | Zürich | 343869 | 337900 | 347517 | 350125 | Zürich |
2. | Genefa | 173549 | 174999 | 178722 | 178603 | Genefa |
3. | Basel | 174007 | 166009 | 163930 | 163081 | Basel Ddinesig |
4. | Bern | 127469 | 122484 | 122178 | 122422 | Bern |
5. | Lausanne | 115878 | 114889 | 117388 | 118049 | Vaud |
6. | Winterthur | 87654 | 88767 | 93546 | 94709 | Zürich |
7. | St. Gallen | 71877 | 69836 | 70316 | 70375 | St. Gallen |
8. | Lucerne | 58847 | 57023 | 57533 | 57890 | Lucerne |
9. | Lugano | 26000 | 25872 | 49223 | 49719 | Ticino |
10. | Biel | 50733 | 48840 | 48735 | 49038 | Bern |
11. | Thun | 39094 | 39981 | 41138 | 41177 | Bern |
12. | Köniz | 36335 | 37196 | 37250 | 37226 | Bern |
13. | La Chaux-de-Fonds | 37375 | 36747 | 36809 | 36713 | Neuchâtel |
14. | Schaffhausen | 34073 | 33274 | 33569 | 33459 | Schaffhausen |
15. | Fribourg | 32501 | 31691 | 33008 | 33418 | Fribourg |
16. | Chur | 30091 | 31310 | 32409 | 32441 | Graubünden |
17. | Neuchâtel | 31768 | 31639 | 32117 | 32333 | Neuchâtel |
18. | Vernier | 28423 | 28727 | 30020 | 30606 | Genefa |
19. | Uster | 26139 | 27893 | 29855 | 30144 | Zürich |
20. | Sion | 26065 | 27145 | 28510 | 28633 | Valais |
Ieithoedd
[golygu | golygu cod]Ceir nifer o ieithoedd swyddogol yn y Swistir. Almaeneg yw mamiaith y nifer fwyaf o'r trigolion, 63.7% yn ôl cyfrifiaf 2000. O 26 canton y Swistir, Almaeneg yw iaith 17 ohonynt. Siaredir nifer o dafodieithoedd o Almaeneg y Swistir, Schwyzerdütsch, a dim ond yn y sefyllfaoedd mwyaf ffurfiol y defnyddir Almaeneg safonol (Hochdeutsch).
Siaredir Ffrangeg fel mamiaith gan 20.4% o'r boblogaeth, yng ngorllewin y wlad yn bennaf. Ffrangeg yw iaith swyddogol pedwar canton: Genefa, Jura, Neuchâtel a Vaud, gyda thair arall yn ddwyieithog gyda Ffrangeg un un o'r ieithoedd swyddogol. Siaredir Eidaleg fel iaith gyntaf gan 6.5%, yn y de yn bennaf, ac mae'n iaith swyddogol canton Ticino. Siaredir Romaunsch gan 0.5%, yn bennaf yng nghanton Grisons. Roedd tua 9% a mamiaith nad oedd yn un o ieithoedd swyddogol y Swistir.