Gwas neidr brown
Gwas neidr brown Aeshna grandis | |
---|---|
Gwryw A. grandis | |
Benyw A. grandis | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Odonata |
Teulu: | Aeshnidae |
Genws: | Aeshna |
Rhywogaeth: | A. grandis |
Enw deuenwol | |
Aeshna grandis (Linnaeus, 1758) |
Gwas y neidr mwy na'r cyffredin ac sy'n perthyn i deulu'r Aeshnidae yw Gwas neidr brown (ll. Gweision neidr brown; Lladin: Aeshna grandis; Saesneg: Brown hawker) sy'n bryfyn sy'n perthyn i Urdd yr Odonata (sef Urdd y Gweision neidr a'r Mursennod). Mae i'w ganfod yng Nghymru.
Mae'n 73 mm (2.9 mod) o hyd ac yn rhywgogaeth unigryw a hawdd ei hadnabod, hyd yn oed pan fo'n hedfan. Mae'n frown ei liw a'i enw, ac mae ganddo adenydd efydd. Mae gan y gwryw smotiau glas ar gylchrannau 2 a 3 o'i abdomen.
Rhwng Gorffennaf a Medi mae'n hedfan. Mae gan yr oedolyn ifanc resi ar ochr ei thoracs a rhesi hefyd ar ei goesau, sy'n ei wneud yntau'n hawdd ei adnabod.
Tiriogaethau
[golygu | golygu cod]Mae'r Aeshna grandis yn gyffredin yng nghanol a dwyrain Ewrop. Gellir ei ganfod rhwng Iwerddon a Mynyddoedd yr Wral ac ar adegau yn yr Alban a gogledd Sgandinafia a'r Balcanau. Mae hefyd i'w weld yng Nghymru ac mae'n gyffredin drwy Loegr yn enwedig yn y De Ddwyrain.
Pyllau, llynnoedd a chamlesi yw ei gynefin ac mae'n gwarchod ei diriogaeth i'r carn.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- "Aeshna grandis". British Dragonfly Society. Cyrchwyd 27 Mai 2011.