Gale is Dead
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | rhaglen deledu |
---|
Rhaglen ddogfen arobryn am ferch oedd yn gaeth i gyffuriau yw Gale is Dead. Fe'i darlledwyd ym 1970 gan y BBC, yn dilyn ei marwolaeth yn 19 oed. Daeth y rhaglen â phroblem cyffuriau i sylw cynulleidfa a oedd wedi ei diogelu gan y fath broblemau cyn hynny ac roedd methiant llwyr y system ar y pryd i helpu defnyddwyr cyffuriau yn amlwg. Ar ôl gweld y rhaglen, ysbrydolwyd y bardd Nesta Wyn Jones i ysgrifennu'r gerdd Gail, fu farw.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gale is Dead ar wefan Youtube (Rhan 1)