Brockhampton-by-Ross
Gwedd
Eglwys yr Holl Saint, Brockhampton | |
Math | pentref, plwyf sifil |
---|---|
Ardal weinyddol | Swydd Henffordd (Awdurdod unedol) |
Poblogaeth | 232 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Henffordd (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.982°N 2.587°W |
Cod SYG | E04000714 |
Cod OS | SO592319 |
- Erthygl am y pentref ger Rhosan ar Wy yw hon. Am y pentref arall yn Swydd Henffordd, ger Bromyard, gweler Brockhampton, Swydd Henffordd. Am leoedd eraill o'r un enw gweler Brockhampton.
Pentref a phlwyf sifil yn Swydd Henffordd, Gorllewin Canolbarth Lloegr, ydy Brockhampton-by-Ross neu Brockhampton.[1] Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Brockhampton (Old Gore Ward) yn awdurdod unedol Swydd Henffordd.
Y ddau adeilad pwysicaf yn y pentref yw Brockhampton Court ac Eglwys yr Holl Saint. Mae Brockhampton Court yn blasty sylweddol a adeiladwyd yn wreiddiol fel rheithordy yng nghanol y 18g. Cafodd ei ailadeiladu i raddau helaeth yn yr arddull neo-Tuduraidd ym 1893. Cwblhawyd Eglwys yr Holl Saint ym 1902. Dyluniwyd yr adeilad, sydd yn null y Mudiad Celf a Chrefft, gyda to gwellt, gan William Lethaby, pensaer o Loegr.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 2 Gorffennaf 2020