Black Swan (ffilm)
Gwedd
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Darren Aronofsky |
Cynhyrchydd | Scott Franklin Mike Medavoy Arnold Messer Brian Oliver |
Ysgrifennwr | Andres Heinz (stori) |
Addaswr | Mark Heyman Andres Heinz John McLaughlin |
Serennu | Natalie Portman Vincent Cassel Mila Kunis |
Cerddoriaeth | Clint Mansell |
Sinematograffeg | Matthew Libatique |
Golygydd | Andrew Weisblum |
Dylunio | |
Dosbarthydd | Fox Searchlight Pictures |
Dyddiad rhyddhau | 3 Rhagfyr 2010 |
Amser rhedeg | 108 munud |
Gwlad | Yr Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Cyllideb | $13 miliwn |
Refeniw gros | $$75,218,000 |
Ffilm Americanaidd o 2010 yn serennu Natalie Portman, Vincent Cassel, a Mila Kunis ydy Black Swan. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Darren Aronofsky. Disgrifir y ffilm fel ffilm gyffro seicolegol neu ffilm arswyd seicolegol. Mae'r plot yn ymwneud â chynhyrchiad o "Swan Lake" gan gwmni ballet uchelael Dinas Efrog Newydd. Golyga'r cynhyrchiad fod yn rhaid i un dawnswraig ballet chwarae rhan yr Alarch Wen ddiniwed a'r Alarch Ddu nwydus. Mae un dawsnwraig, Nina (Portman) yn gwbl addas ar gyfer yr Alarch Wen, tra bod gan Lily (Kunis) bersonoliaeth sy'n gweddu i'r Alarch Ddu. Pan fo'r ddwy ohonynt yn cystadlu am y rhannau, darganfydda Nina ochr mwy tywyll i'w chymeriad.