[go: up one dir, main page]
More Web Proxy on the site http://driver.im/Neidio i'r cynnwys

Adamsdown

Oddi ar Wicipedia
Adamsdown
Mathmaestref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth10,371, 11,609 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDinas a Sir Caerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd106.68 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.4853°N 3.1593°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000837 Edit this on Wikidata
Cod OSST196769 Edit this on Wikidata
Cod postCF24 Edit this on Wikidata
AS/au y DUJo Stevens (Llafur)
Map

Ardal a chymuned yn ne-ddwyrain Caerdydd yw Adamsdown. Dywedir iddi gael ei henwi ar ôl Adam Kygnot, porthor yng Nghastell Caerdydd tua 1330.[1]

Mae nifer o strydoedd yr ardal wedi eu henwi ar ôl metalau, cerrig gwerthfawr a thermau seryddol.

Lleolir nifer o sefydliadau pwysig yn yr ardal, megis Llys Ynadon, Carchar Caerdydd, Clafdy Brenhinol Caerdydd ac Ysgol Diwylliannau Celfyddydol a Diwylliannol Prifysgol De Cymru a champws Gerddi Howard Prifysgol Fetropolitan Caerdydd. Ymhlith addoldai yr ardal mae Eglwys Sant Garmon, Synagog y diwygiad a sawl teml Sikh. Yno hefyd y mae Ysgol Gynradd Adamsdown.

Enwau Cymraeg

[golygu | golygu cod]

Adamsdown yw'r ffurf arferol yn y Gymraeg, a honno a ddefnyddir gan Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Mae'r Gwyddoniadur hefyd yn nodi bodolaeth y ffurf Gymraeg Waunadda (t. 117), ond ymddengys mai bathiad diweddar yw'r ffurf honno. Nid oes tystiolaeth fod Adam Kygnot (gan gymryd mai ef a roes ei enw i'r ardal) erioed wedi ei alw'n 'Adda'.

Enw Cymraeg arall sydd wedi ei ddefnyddio am yr ardal yw Y Sblot Uchaf.[2] Yn wreiddiol fferm ydoedd y Sblot Uchaf (neu 'Upper Splott') ar safle'r Great Eastern Hotel diweddarach (a ddymchwelwyd yn 2009) ar gornel Sun Street a Metal Street.[3]

Y ffurf Adamsdown, fodd bynnag, yw'r un arferol yn y Gymraeg fel yn y Saesneg, a honno a ddefnyddir gan Gyngor Caerdydd.

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Adamsdown (pob oed) (10,371)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Adamsdown) (838)
  
8.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Adamsdown) (5587)
  
53.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Adamsdown) (1,466)
  
36.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 'Schedule of place names: A - F', Cardiff Records: volume 5 (1905), pp. 337-369. URL: http://www.british-history.ac.uk/report.aspx?compid=48203 Archifwyd 2013-09-19 yn y Peiriant Wayback Gwelwyd: 29 Mehefin 2013.
  2. Owen John Thomas, 'Yr Iaith Gymraeg yng Nghaerdydd c.1800-1914', tt. 191–3, yn Geraint H. Jenkins (gol.), Iaith Carreg Fy Aelwyd (Caerdydd, 1998).
  3. 'Schedule of place names: S - Z', Cardiff Records: volume 5 (1905), pp. 413-437. URL: http://www.british-history.ac.uk/report.aspx?compid=48206 Gwelwyd: 29 Mehefin 2013.
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]