Abermarlais
Math | maenordy wedi'i amddiffyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.94857°N 3.904558°W |
Perchnogaeth | Syr Henry Jones |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Safle hynafol yng nghymuned Llansadwrn, Sir Gaerfyrddin lle codwyd plasdy enwog gan hynafiaid Syr Rhys ap Thomas yw Abermarlais. Does dim olion o'r plasdy ei hun ar y safle heddiw, ond bu'n un o ganolfannau amlycaf de-orllewin Cymru yn yr Oesoedd Canol.
Credir bod plasdy wedi'i godi ar y safle efallai mor gynnar â'r 14g. Dyma gartref Rhys ap Gruffudd, taid Syr Rhys ap Thomas, a arweiniodd y Cymry ym Mrwydr Crécy. Ar ddiwedd y 15g a dechrau'r ganrif olynol, Abermarlais oedd prif lys Syr Rhys ap Thomas, cynghreiriad pennaf Harri Tudur ar Faes Bosworth ac arglwydd de facto rhan sylweddol o orllewin Cymru. Tyrrai beirdd yno o bob rhan o Gymru, ac yn eu plith Lewys Glyn Cothi.
Ar farwolaeth Rhys ap Thomas yn 1525, etifeddwyd y plas a'r ystad gan ei ŵyr, Syr Rhys ap Gruffudd ap Thomas. Ond dienyddwyd yr arglwydd ifanc gan Harri VIII o Loegr ar gyhuddiad o deyrnfradwriaeth a chynllwyno gyda'r Gwyddelod (mae'n debyg mai ofn grym a dylanwad teulu Syr Rhys a'i dueddiadau annibynnol oedd y gwir reswm) a meddianwyd Abermarlais gan Goron Lloegr.
Ymwelodd yr hynafiaethydd John Leland ag Abermarlais yn y 1530au. Dywed: "The parke there is paled, and in cumpas .ii. miles and a half and well wooded."[1] Yn yr adroddiad gan gomisiynwyr y Goron yn 1532, dywedir bod y plasdy yn sefyll mewn parc ac yn cael ei amgylchynnu gan glawdd a ffos o ddŵr. Roedd y prif adeilad yn mesur 136 wrth 33 troedfedd. Roedd porth mawr i'r parc a stablau eang gyda lle i ugeiniau o feirch (roedd Syr Rhys yn enwog am ei farcholgu o Gymry).[2]
Cafodd yr hen blasdy ei ddymchwel yn 1803 a chodwyd tŷ newydd ar y safle, ond tynnwyd hynny i lawr yn y 1970au. Mae adfail y porthdy gwreiddiol yn dal i sefyll. Erbyn heddiw mae rhan o dir yr ystad yn wersyll carafanau.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Ralph A. Griffiths, Sir Rhys ap Thomas and his Family: a study in the Wars of the Roses and Early Tudor Politics (Gwasg Prifysgol Cymru, 1993) ISBN 0-7083-1218-7
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed: Abermarlais Archifwyd 2008-10-15 yn y Peiriant Wayback