Anweledig
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Label recordio | Cwmni Recordiau Sain |
Dod i'r brig | 1991 |
Yn cynnwys | Bari Gwilliam, Gai Toms |
Band o Flaenau Ffestiniog yng Ngogledd Cymru oedd Anweledig, roeddynt yn chwarae amrediad o arddulliau Ffync, Reggae, Ska a Roc. Aelodau'r band oedd: Ceri Cunnington (prif lais), Gai Toms (gitâr,cyfansoddi, llais), Iwan 'Oz' Jones (gitâr flaen), Rhys Roberts (gitâr fâs), Alwyn Evans (drymiau) a Joe Buckley (allweddellau) ynghyd ag adran chwyth, 'Y Tri Tôn'.
Daeth Anweledig i'r amlwg yn y Sîn Gerddoriaeth Gymraeg yn 1998, wrth ryddhau eu halbwm gyntaf, Sombreros yn y Glaw ar label Crai. Wedi ffurfio yn 1991, dros amser cawsant gigiau â'r Super Furry Animals, Ffa Coffi Pawb, Geraint Jarman ac eraill. I gyd-fynd a'u halbwm cyntaf, recordiwyd fideo ar gyfer sioe S4C, i-Dot, o'r gân 'Fan Hyn'.
Yn 1999, rhyddhawyd EP Cae yn Nefyn, eto ar label Crai. Yn arwydd o'u llwyddiant ar y pryd, roeddent yn brif fand yn Maes B yn yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno. Yn y blynyddoedd canlynol, rhyddhawyd nifer o CDs gan y band sef Scratchy (Sengl, 2000), Gweld y Llun (Albwm, 2001) a Low Alpine (Sengl, 2001). Gwnaeth hyn Anweledig yn adnabyddus dros Gymru, gyda'u sain unigryw yn gymysgedd o lawer o ddylanwadau. Yn 2002, aethant ar daith drwy Lydaw, cyn cymryd toriad er mwyn canolbwyntio ar brosiectau eraill megis Mim Twm Llai (Gai Toms) a Vates (Oz). Yn 2004, ailffurfiodd y band gan ail-ddechrau gigio a rhyddhau'r EP Byw. Yn y cyfamser, ymunodd Rhys Roberts i chwarae'r gitâr fâs i'r band roc Sibrydion.
Ar ôl cyfnod tawel arall, ailffurfiodd Anweledig am gig fawreddog yn Nhân y Ddraig yn Awst 2006, â'r Proclaimers yn eu cefnogi.
Chwaraeodd Anweledig eu gig olaf yng Ngwesty'r Queens, Blaenau Ffestiniog y dydd ar ôl Ŵyl San Steffan 2008, bron union 16 mlynedd ers cychwyn y band.
Discograffiaeth
[golygu | golygu cod]- Rhestr o ganeuon gan Anweledig
- Sombreros yn y Glaw (L.P., Crai, 1998)
- Cae yn Nefyn (E.P., Crai, 1999)
- Scratchy (E.P., Crai, 2000) Cywaith efo Zion Train
- Gweld y Llun (L.P., Crai, 2001)
- Low Alpine (E.P., Crai, 2001)
- Byw (E.P., Crai, 2004)
Dolenni
[golygu | golygu cod]- MySpace y band
- Proffeil y band ar BBC Wales Archifwyd 2007-02-21 yn y Peiriant Wayback (Saesneg)
- Anweledig ar Last.fm