Charles Causley
Charles Causley | |
---|---|
Ganwyd | 24 Awst 1917 Lannstefan |
Bu farw | 4 Tachwedd 2003 Lannstefan |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd |
Adnabyddus am | Secret destinations |
Gwobr/au | CBE |
Roedd Charles Stanley Causley (24 Awst 1917 - 4 Tachwedd 2003) yn ysgolfeistr, awdur, a bardd Cernewig a ysgrifennai yn y Saesneg. Nodir ei waith am ei symlrwydd a'i uniongyrchedd ac am ei berthynas â llên gwerin, yn enwedig felly ei weithiau sy’n ymwneud â'i Gernyw frodorol.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Ganwyd Causley yn Lannstefan (Launceston), yn fab i Charles Causley, gwastrawd a garddwr a Laura J (née Bartlett) ei wraig. Ganwyd Causley tra fo ei dad yn gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf fel gyrrwr yng Nghorfflu Gwasanaeth y Fyddin ar y ffrynt gorllewinol. Bu ei dad marw o effeithiau nwy Almeinig pan oedd Causley yn saith mlwydd oed, ac fe'i magwyd gan ei fam.[1]
Cafodd ei addysgu yn ysgol genedlaethol Lannstefan a Choleg Lannstefan (ysgol ramadeg).
Ni fu’n briod
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Dymuniad Causley oedd parhau a’i addysg yn yr ysgol ramadeg gyda’r gobaith o fynd ymlaen i brifysgol, ond yn 16 oed cyhoeddodd ei fam ei bod wedi cael swydd dda iddo mewn swyddfa adeiladwr[2]. Bu’n rhaid iddo ymadael a’r ysgol i weithio mewn swydd roedd yn ei gasáu [3].
Ar doriad yr Ail Ryfel Byd ymunodd a’r Llynges Frenhinol fel codydd.[4] Gwasanaethodd ar y llong HMS Eclipse ar Gefnfor yr Iwerydd ac ar y llong awyrennau HMS Glory ar y Cefnfor Tawel.
Ar ddiwedd y rhyfel aeth Causley yn fyfyriwr i goleg hyfforddi athrawon Peterborough. Wedi cymhwyso fel athro dychwelodd i wasanaethu fel athro yn ei hen ysgol gynradd, ysgol genedlaethol Lannstefan (a ail-enwyd yn ysgol St Catherine’s wedyn).
-
Ysgol Lannstefan
-
Plac ar wal yr ysgol
Gyrfa fel bardd ac awdur
[golygu | golygu cod]Er ei fod wedi ymddiddori yn y byd llenyddol ers yn blentyn, ac wedi cyhoeddi ambell i ddrama wrth weithio fel clerc, ei gyfnod yn y llynges rhoddodd bri ar ei awen[1]. Ychydig cyn y rhyfel prynodd copi o lyfr o gerddi Rhyfel Byd Cyntaf Siegfried Sassoon War Poems. Teimlai bod y llyfr yn gymorth iddo ail gysylltu â’i dad a fu farw o ganlyniad i’r rhyfel. Arweiniodd llyfr Sassoon iddo ddarllen gwaith Robert Graves, Edmund Blunden, a Wilfred Owen, a bu eu disgrifiadau byw o’r wrthdaro yn gwneud argraff ddwys arno. Wrth iddo brofi erchyllterau rhyfel trwy ei wasanaeth yn yr Ail Ryfel Byd dechreuodd ysgrifennu storïau byrion a cherddi o’r un anian.
Cyhoeddwyd y storïau yn ei lyfr Hands to Dance (1951) a’r cerddi yn ei gasgliad cyntaf Farewell, Aggie Weston (1951).
Wrth weithio fel athro dechreuodd ysgrifennu cerddi a storïau i blant, er, yn ôl ei gyfaddefiad ei hun, nad oedd yn gwybod wrth gychwyn gwaith os oedd i fod ar gyfer plentyn neu oedolyn. Wrth drafod ei gerddi dywedodd y bardd W H Auden amdano Causley stayed true to what he called his 'guiding principle' ... while there are some good poems which are only for adults, because they pre-suppose adult experience in their readers, there are no poems which are only for children.
Yn ogystal ag ysgrifennu i blant mae nifer o’i gerddi i oedolion yn edrych yn ôl ar ei blentyndod yng Nghernyw megis Eden Rock [5] a Who [6].
Roedd Causley yn hoff o deithio’r byd ac yn ysgrifennu cerddi am ei brofiadau yn Awstralia, Canada, yr Aifft, Rwsia a nifer o lefydd eraill, ond roedd Cernyw yng nghanol ei holl waith. Yn 2017 darlledwyd teyrnged iddo ar BBC 4 o’r enw Cornwalls Native Poet. Yn y rhaglen mae Gillian Clarke (Bardd Cenedlaethol Cymru 2008-2016) yn nodi’r adlais o'r gynghanedd mewn rhai o’i gerddi, ar arfer Celtaidd o gysylltu â llên gwerin. Mae Clerk yn honni bod ei waith yn rhan o’r un teulu a’r traddodiad barddol Cymreig.[7]. (Cyfeiriad dros dro BBC I-Player Cornwall's Native Poet: Charles Causley)
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]Ym 1952 fe urddwyd Causley fel bardd yn Gorseth Kernow gyda'r enw barddol Morvardh. [8] Ym 1958, gwnaethpwyd Causley yn Gymrawd y Gymdeithas Llenyddiaeth Frenhinol a dyfarnwyd CBE iddo ym 1986. Pan oedd yn 83 mlwydd oed fe'i gwnaethpwyd yn Gymar Llenyddiaeth gan y Gymdeithas Llenyddiaeth Frenhinol. Ymysg gwobrau eraill y dyfarnwyd iddo bu Medal Aur y Frenhines ar gyfer Barddoniaeth ym 1967 a Gwobr Cholmondeley ym 1971. Ym 1973/74 bu'n Ymwelydd Gymrodor mewn Barddoniaeth ym Mhrifysgol Caerwysg, gan dderbyn doethuriaeth anrhydeddus o'r brifysgol honno ar 7 Gorffennaf 1977. Fe'cyflwynwydyd â Gwobr Lenyddol Heywood Hill yn 2000. Rhwng 1962 a 1966 bu'n aelod o Banel Barddoniaeth Cyngor Celfyddydau Prydain Fawr. Dyfarnwyd iddo ysgoloriaeth deithiol ddwywaith gan Gymdeithas yr Awduron.
Derbyniodd wahoddiadau i fod yn awdur-breswyl ym Mhrifysgol Gorllewin Awstralia, Sefydliad Technoleg Footscray, Victoria, ac Ysgol y Celfyddydau Cain, Banff, Alberta.
Ym 1982, ar achlysyr ei ben-blwydd yn 65 mlwydd oed, cyhoeddwyd llyfr o gerddi yn ei anrhydeddu a oedd yn cynnwys cyfraniadau gan Ted Hughes, Seamus Heaney, Philip Larkin a thri ar hugain o feirdd eraill, dilynwyd hon gan deyrnged lawnach a mwy eang, Causley at 70, a gyhoeddwyd ym 1987.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw yn Kernow House, cartref nyrsio yn Lannstefan, a chladdwyd ei weddillion yn Eglwys St Thomas, Lannstefan, tua chanllath o’i fan geni.
Llyfrau
[golygu | golygu cod]I oedolion
[golygu | golygu cod]- Hands to Dance (short stories, later re-published as Hands to Dance and Skylark) (1951)
- Farewell, Aggie Weston (1951)
- Survivor's Leave (1953)
- Union Street (1957)
- Johnny Alleluia (1961)
- Underneath the Water (1968)
- Secret Destinations (1984)
- Twenty-One Poems (1986)
- A Field of Vision (1988)
- Collected Poems, 1951-2000 (2000)
I blant
[golygu | golygu cod]- Figure of 8 (narrative poems 1969)
- Figgie Hobbin: Poems for Children (i blant, 1970)
- 'Quack!' Said the Billy-Goat (c. 1970)
- The Tail of the Trinosaur (i blant, 1973)
- As I Went Down Zig Zag (1974)
- Dick Whittington (1976)
- The Animals' Carol (1978)
- Early in the Morning: A Collection of New Poems with music by Anthony Castro and illustrations by Michael Foreman
- Jack the Treacle Eater (Macmillan, 1987), illustrated by Charles Keeping — winner of the Kurt Maschler Award, or the Emil, for integrated writing and illustration[10]
- The Young Man of Cury and Other Poems (1991)
- All Day Saturday, and Other Poems (1994)
- Collected Poems for Children (1996) as illustrated by John Lawrence
- The Merrymaid of Zennor (1999)
- I Had a Little Cat (2009)
- Timothy Winters
Dramau
[golygu | golygu cod]- Runaway (1936)
- The Conquering Hero (1937)
- Benedict (1938)
- How Pleasant to Know Mrs. Lear: A Victorian Comedy in One Act (1948)
- The Ballad of Aucassin and Nicolette (libretto, 1981)
Golygydd
[golygu | golygu cod]- Peninsula
- Dawn and Dusk
- Rising Early
- Modern Folk Ballads
- The Puffin Book of Magic Verse
- The Puffin Book of Salt-Sea Verse
- The Sun, Dancing: Anthology of Christian Verse
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 John Mole, Causley, Charles Stanley (1917-2003), Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, Jan 2007, adalwyd 2 Hydref 2017
- ↑ BBC GCSE Bitesize Charles Causley: What Has Happened To Lulu? Archifwyd 2014-05-29 yn y Peiriant Wayback adalwyd 2 Hydref 2017
- ↑ Guardian Obituaries 6 Tachwedd 2003 Charles Causley adalwyd 2 Hydref 2017
- ↑ Telegraph Obituaries Charles Causley adalwyd 2 Hydref 2017
- ↑ Poem Analysis ‘’Eden Rock’’ adalwyd 2 Hydref 2017
- ↑ The Poetry Practice Who is that child I see wandering …? adalwyd 2 Hydref 2017
- ↑ BBC4 Cornwall’s Native Poet: Charles Causley darlledwyd gyntaf 1 Hydref 2017 adalwyd 2 Hydref 2017
- ↑ "Bardic Roll by Surname 2019" (PDF). Gorsedh kernow. Cyrchwyd 8 Sep 2023.
- ↑ CAUSLEY, Charles Stanley, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2016; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014 adalwyd 1 Hydref 2017
- ↑ "Kurt Maschler Awards". Book Awards. bizland.com. Adalwyd 2 Hydref 2017.