[go: up one dir, main page]
More Web Proxy on the site http://driver.im/Neidio i'r cynnwys

Cefin Roberts

Oddi ar Wicipedia
Cefin Roberts
Ganwyd28 Hydref 1953 Edit this on Wikidata
Llanllyfni Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, cerddor, cyfarwyddwr Edit this on Wikidata

Awdur, actor, cyfarwyddwr theatrig a cherdd o Gymru yw Cefin Roberts (ganwyd 28 Hydref 1953).

Magwyd Cefin yn Llanllyfni, Dyffryn Nantlle ac yn byw ym Mangor. Astudiodd yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin a Choleg Cerdd a Drama Caerdydd. Bu’n gweithio i Gwmni Theatr Cymru ym Mangor gan weithio o dan ofal Wilbert Lloyd Roberts yn ysgrifennu a chyfarwyddo.[1][2]

Fe sefydlodd Cefin y grwp poblogaidd "Hapnod" gyda'i wraig Rhian yn yr wythdegau cynnar. Fe ddarlledwyd tair cyfres o "Hapnod" - rhaglen adloniant ysgafn ar S4C yn yr 1980au.[3]

Sefydlodd Ysgol Glanaethwy yn 1990 ym Mharc Menai, Bangor, yr ysgol berfformio cyntaf o'i fath yng Nghymru.

Ymunodd â chriw cynhyrchu Rownd a Rownd yn 1995 ac roedd yn bennaf gyfrifol am fraslunio straeon i'r gyfres. Derbyniodd Gymrodoriaeth gan y Coleg Cerdd a Drama yn 1997 a Chymrodoriaeth gan Brifysgol Bangor yn 2001 am ei wasanaeth i fyd y theatr ac ym maes hyfforddi ieuenctid.[2] Bu'n Gyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru rhwng 2003 a 2010.[4]

Yn 2003, enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau am ei nofel Brwydr y Bradwr.[2]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Mae'n briod â Rhian Roberts ac mae'n dad i Mirain Haf a Tirion Anarawd.[2] Mae Mirain hefyd yn actores a chantores nodedig a cyhoeddwyd llyfr ffeithiol Cefin Roberts a Mirain Haf am y tad a'r ferch yn 2004.

Gwaith cyhoeddedig

[golygu | golygu cod]
Teitl Blwyddyn Gwasg Nodiadau
Brwydr y Bradwr 2003 Gwasg Gwynedd
Cymer y Seren 2009 Gwasg Gwynedd
Perffaith Chwarae Teg, Ysgol Glanaethwy 1990-2011 2011 Gwasg Carreg Gwalch Hanes Ysgol Glanaethwy, yng ngyfres 'Syniad Da'
Cofion, Cefin 2012 Gwasg y Bwthyn
Sgin Ti Fonolog 2018 Gwasg y Bwthyn
Os na ddon nhw 2019 Lolfa Nofel
Nadolig Pwy a Wyr 2 2019 Gwasg y Bwthyn Amlgyfrannog

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Rhestr Awduron - Llenyddiaeth Cymru Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback; Adalwyd 2015-12-16
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Y Fedal Ryddiaith i Cefin Roberts, Newyddion BBC; Adalwyd 2015-12-17
  3. Ysgol Glanaethwy - Cefin & Rhian Roberts Archifwyd 2015-08-17 yn y Peiriant Wayback; Adalwyd 2015-12-16
  4. Cefin Roberts yn gadael y Theatr Genedlaethol, Golwg360; Adalwyd 2015-12-16