Paul Klee
Paul Klee | |
---|---|
Ganwyd | 18 Rhagfyr 1879 Münchenbuchsee |
Bu farw | 29 Mehefin 1940 Muralto |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prwsia, Y Swistir |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, academydd, artist, arlunydd graffig, lithograffydd, cynllunydd, gwneuthurwr printiau, drafftsmon, drafftsmon |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Sumpflegende, Twittering Machine, Angelus Novus |
Arddull | celf haniaethol, geometric abstraction |
Prif ddylanwad | James Ensor, Pablo Picasso, Artistry of the Mentally Ill |
Mudiad | Mynegiadaeth, Swrealaeth, pwyntiliaeth, Bauhaus, Peintio Maes Lliw |
Priod | Lily Klee |
llofnod | |
Roedd Paul Klee (18 Rhagfyr 1879 – 29 Mehefin 1940) yn arlunydd Swisaidd-Almaenaidd a fu'n aelod o'r grŵp Blaue Reiter ac yn athro yng ngholeg celf enwog y Bauhaus. Bu ei waith unigryw yn nodweddiadol am eu defnydd ac am ddatblygu'r cysyniad o liw ac mae ei lyfr Ysgrifau ar Ffurf a Chynllunio (Schriften zur Form und Gestaltungslehre) yn cael eu hystyried mor bwysig a gwaith Leonardo da Vinci: y Codex Urbinas a'i ddylanwad aruthrol ar y Dadeni Dysg.[1][2][3] Mae holl waith Paul Klee yn adlewyrchu ei hiwmor sych a'i berspectif plentynnaidd o fywyd yn ogystal â'i hoffter o gerddoriaeth a'i anwadalrwydd fel person.[4]
Dyddiau cynnar
Ganwyd Klee ym Münchenbuchsee, yn agos i dref Bern yn y Swistir; ei dad yn Almaenwr ac yn athro cerddoriaeth, ei fam yn Swiswraig ac yn gantores. O dan ddylanwad ei rhieni bu'r Paul Klee ifanc yn gerddor addawol ond ddatblygodd ei ddiddordeb mewn celf ac yn 1896 fe'i dderbyniwyd i Sefydliad Celf Gain München.
Peintiodd mewn olew, dyfrlliw, inc a chyfryngau eraill, gan yn aml eu cyfuno yn yr un darlun. Roedd ei waith yn aml yn cyfeirio at farddoniaeth, cerddoriaeth a breuddwydion, weithiau'n cynnwys geiriau neu nodiadau caneuon.
Ar ôl graddio o'r coleg celf teithiodd i'r Eidal, ac wrth ddychwelyd i München cyfarfu â Wassily Kandinsky, Franz Marc, August Macke ac arlunwyr avant-garde eraill a ffurfiodd grŵp celfyddydol y Blaue Reiter (y marchog glas);[5] bu rhain yn ddylanwad mawr ar Fynegiadaeth (Expressionism) Almaeneg yn ddiweddarach. Er nad oedd Klee yn aelod llawn o'r Blaue Reiter arddangosodd ei waith gyda nhw a rhannodd eu diddordeb mewn celf Gothig a mudiadau cyfoes fel Fauve a Chiwbiaeth.
Bu'n rhaid i Klee ymuno â byddin Yr Almaen pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf ond nid anfonwyd ef i'r ffrynt. Ond laddwyd Marc a Macke yn y Rhyfel a bu rhaid i Kandinsky ddychwelyd i Rwsia. Cafodd marwolaeth ei ffrindiau effaith mawr arno fel y gwelir mewn gweithiau fel Marwolaeth i'r Syniad (1915).[6]
Teithiau
Ym 1914 ymwelodd â Tiwnis (Tiwnisia) a fu'n hynod o bwysig yn natblygiad ei waith. Yno fe'i syfrdanwyd gan ansawdd a chryfder y golau. Ysgrifennodd yn ei ddyddiadur personol: Mae'r lliw wedi cymryd troseddaf, does dim rhaid imi chwilio amdano, dw i'n gwybod y bydd yn gafael ynof am byth... mae lliw a minnau yr un peth.
Ar ôl dychwelyd o Tiwnis peintiodd ei lun haniaethol cyntaf - Im Stil von Kairoua ("Yn Arddull Kairouan), sydd yn gyfres o gylchoedd a sgwariau lliw. Daeth y sgwâr lliw yn sylfaen i'w waith diweddarach – pob sgwâr a phob lliw yn cyfateb i nodyn cerddorol a'i gynfasau'n cyfateb i gyfansoddiadau cerddorol. Ymwelodd â'r Eidal yn 1901 ac a'r Aifft ym 1928.[7]
Bauhaus
Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf penodwyd Klee yn athro yn y Bauhaus - coleg celf, cynllunio a phensaernïaeth enwoca'r Almaeneg rhwng 1919 a 1933, coleg a fu'n ddylanwad aruthrol ar ddyluniad modern yn ystod ail hanner yr 20g.
Daeth y Natsïaid i rym yn yr Almaen ym 1933 gan orfodi'r Bauhaus i gau eu drysau a chondemniwyd gwaith Klee a llawer o arlunwyr eraill yn hallt, gan eu galw'n 'gelf ddirywiedig' (degenerate art). Fel llawer o arlunwyr modern eraill yr Almaen bu'n rhaid i Klee ddianc o'r wlad er mwyn osgoi cael ei garcharu neu hyd yn oed eu lladd.[7]
Alltud
Ym 1933 dychwelodd Klee i'r Swistir ble bu'n byw hyd ddiwedd ei fywyd ym 1940. Bu'n hynodo o weithgar yn y Swistir er gwaethaf salwch ar ddiwedd ei oes. Gadwodd Klee dros 9,000 o weithiau.
Klee a lliw
Cyn ei daith i Tiwnis credodd Klee nad oedd lliw yn bwysig ond datblygodd i fod yr elfen bwysicaf yn ei waith. Wedi Tiwnis defnyddiodd Klee liw mewn ffyrdd amrywiol ac unigryw gan ddatblygu ac ymestyn ei dechnegau o hyd.
Yn y Bauhaus dysgodd theori liw i'r myfyrwyr ac ysgrifennodd amdo'n helaeth. Ystyrir ei Schriften zur Form und Gestaltungslehre (Ysgrifennu am ffurf a Theori Cynllunio) yn gyfraniad sylweddol i ddatblygiad a dealltwriaeth o liw mewn celf fodern.[7]
Oriel
-
Fy Ystafell, 1896
-
Cyfansoddiad Cosmig, 1919
-
Angelus Novus, 1920
-
Anturiaeth Ifanc, 1921
-
Balwn Coch, 1922
-
Der Goldfisch (Y pysgodyn aur), 1925
-
Was fehlt ihm? (Beth mae e ar goll?), 1930
-
Poliffoni, 1932
-
Marwolaeth a Thân, 1940
-
Pyped llaw heb deitl (hunanbortread), 1922
Cyfeiriadau
- ↑ Disegno e progettazione By Marcello Petrignani p.17
- ↑ Guilo Carlo Argan "Preface", Paul Klee, The Thinking Eye, (ed. Jürg Spiller), Lund Humphries, London, 1961, p.13.
- ↑ The private Klee: Works by Paul Klee from the Bürgi Collection Archifwyd 2009-10-09 yn y Peiriant Wayback Scottish National Gallery of Modern Art, Edinburgh, 12 August - 20 October 2000
- ↑ http://www.paulkleezentrum.ch/ww/en/pub/web_root/act/wissenschaftliches_archiv/biografie/schweizer_ohne_roten_pass.cfm Archifwyd 2006-07-18 yn y Peiriant Wayback sobre la ciudadania suiza otorgada posteriormente a su muerte
- ↑ Katharina Erling: Der Almanach Der Blaue Reiter, in: Hopfengart (2000)
- ↑ A ymddangosodd wrth ochr cerdd Gerg Traki yn 'Zeit-Echo' 1915.
- ↑ 7.0 7.1 7.2 Partsch, Susanna (2007). Klee. Cologne: Benedikt Taschen. ISBN 978-3-8228-6361-9.
Dolenni allanol
- Amgeuddfa Paul Klee, Bern Archifwyd 2006-06-28 yn y Peiriant Wayback
- Paul Klee – Swissinfo Archifwyd 2006-11-17 yn y Peiriant Wayback
- Paul Klee – MoMA